Roedd arweiniad wedi'i deilwra wedi agor drysau i Ian fynd yn ôl i'r gwaith, gan wneud rhywbeth y mae'n ei fwynhau'n arw.
Mynd yn ôl i'r gwaith
Roedd Ian wedi cymryd amser o'r gwaith am 11 mlynedd i fod yn ofalwr i'w dad a'i frawd.
Pan oedd yn barod i ailymuno â'r gweithlu, fe gysylltodd â PRIME Cymru yn gyntaf, ac fe wnaethon nhw argymell y dylai gysylltu â Cymru'n Gweithio i'w helpu i benderfynu ble i ddechrau.
Cafodd apwyntiad gyda chynghorydd gyrfa Cymru'n Gweithio, Lindsey Roberts, yng nghanolfan gyrfa Abertawe.
I ddechrau, fe wnaethon nhw edrych ar brofiad Ian cyn iddo roi'r gorau i weithio a sut roedd ei flynyddoedd o ofalu wedi rhoi sgiliau trosglwyddadwy iddo.
Llwybr i faes addysgu
Roedd Lindsey wedi helpu Ian i ystyried rolau y gallai bontio iddynt yn naturiol. Fe wnaethon nhw nodi bod ei sgiliau'n gweddu’n gryf i rolau ym meysydd addysg a chymorth.
Yna fe wnaeth hi ei roi mewn cysylltiad ag asiantaethau a allai ei helpu i gymryd y camau cyntaf yn y maes hwn.
Roedd Lindsey wedi annog Ian hefyd i gydnabod lefel y sgiliau oedd ganddo eisoes, gan ei helpu i fagu hyder eto yn ei allu i ddechrau rhywbeth newydd.
“Roeddwn i eisiau ymchwilio i’r ffordd o fynd ati i wneud gwaith cynorthwyydd addysgu, ac ymunais i â chwmni o’r enw Prospero, lle gwnes i fy holl wiriadau DBS ac roeddwn i’n barod i ddechrau lleoliadau,” meddai Ian.
Meithrin sgiliau a magu hyder
Gydag anogaeth ac arweiniad parhaus ei gynghorydd, fe gamodd Ian i mewn i amrywiaeth o leoliadau addysg.
“Ers mis Gorffennaf y llynedd, rydw i wedi gweithio mewn sawl ysgol ledled de-orllewin Cymru a Chaerfyrddin,” meddai.
“Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydw i hefyd wedi symud ymlaen i gyflenwi rolau goruchwylio. Fel cynorthwyydd addysgu lefel 2, gallwch chi gyflenwi rolau goruchwylio pan fo angen, er bod athro yn dal i oruchwylio hynny.
Ers hynny mae Ian wedi symud i rôl mewn cyngor lleol lle mae'n cynorthwyo pobl ifanc nad ydynt mewn addysg brif ffrwd ar hyn o bryd. Mae’r gwaith hwn yn rhoi boddhad mawr iddo.
Edrych i’r dyfodol yn falch
Mae’r hyn a ddechreuodd fel newid brawychus wedi dod yn bennod newydd gadarnhaol, diolch i'r arweiniad, cadarnhad a'r cyfeiriadau a gafodd.
“Roedd Lindsey yn wych! Nid cyngor gyrfa yn unig a gefais i, ond cyfle i siarad hefyd. I mi, roedd hefyd yn gyfle i siarad yn agored.
“Dim ond gofyn, ‘dyma’r hyn hoffwn ei wneud, sut ydw i’n cyrraedd yno?’ oedd yn rhaid i mi ei wneud. Ac yna roedd Lindsey yn allweddol wrth fy helpu i wneud hynny.”
Gyda’r cymorth y mae ei angen arno, ac angerdd cynyddol dros fyd addysg, mae Ian bellach yn edrych i’r dyfodol gyda hyder, penderfyniad a brwdfrydedd.
Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.