Agorwyd drysau newydd i Christopher pan gafodd gyllid.
Wynebu diweithdra
"Roeddwn wedi bod yn gwasanaethu yn y fyddin am tua 14 mlynedd, ond pan adewais y fyddin, roeddwn ar goll heb wybod beth i’w wneud nesaf. Y lluoedd oedd fy mywyd.
“Des i o hyd i waith fel gweithiwr sylfaen yn gosod polion telegraff trydan, ond ar ôl chwe mis fe gollais fy ngwaith oherwydd bod y cwmni yn cwtogi gweithlu.
“Roeddwn hefyd wedi llwyddo i ennill diploma mewn rheolaeth tra oeddwn yn y fyddin, ac roeddwn lawn awydd cael swydd rheolaeth, ond yn fuan fe sylweddolais nad oedd gennyf unrhyw brofiad ar gyfer y swyddi oedd yn cael eu hysbysebu. Roedd y rhan fwyaf o’r swyddi yn gofyn am raddedigion diweddar, ac roedd hynny yn rhwystr arall i mi fedru gwneud cais.
“Roeddwn hefyd wedi gweld rhai hysbysebion am swyddi gyrru yn yr ardal ac roedd gennyf ddiddordeb mewn ymgeisio amdanynt, ond byddai’n rhaid i fi uwchsgilio er mwyn cael unrhyw gyfle o gyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad hyd yn oed.”
Cael cefnogaeth trwy wasanaeth *Cymru’n Gweithio
Cyfeiriwyd Christopher gan y ganolfan waith i gyfarfod â chynghorydd gyrfa er mwyn trafod ei gamau nesaf a pha fathau o rolau swyddi fyddai’n dda iddo.
fyd wedi ymchwilio i gyllid Mynediad, oherwydd ei fod yn awyddus i weld os oedd yn gymwys amdano, fel ei fod yn medru ymrestru ar gyrsiau i ennill cymwysterau newydd i ychwanegu at ei CV, ac felly yn ei wneud yn fwy cyflogadwy.
“Roeddwn angen cael trwydded CPC er mwyn ymgeisio am waith gyrru. Roedd yr holl drwyddedau angenrheidiol eraill gennyf, ond roeddwn eisiau gweld os oeddwn yn medru defnyddio cyllid Mynediad er mwyn ei gael, os oedd yn bosib.
“Pe bawn i’n onest, roedd hwn yn ateb cyflym i mi, a thra oeddwn â’m bryd ar rolau rheolaeth, roeddwn yn casáu bod yn ddi-waith. Wedi 14 o flynyddoedd yn yr un swydd, nid oeddwn wedi cael cyfweliad ychwaith, ac roedd y cynghorydd yn medru rhoi cyngor i mi ar y math o bethau roedd cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn cyfweliadau.
Chwilio am gyllid ar gyfer hyfforddiant
“Roedd y cynghorydd gyrfa yn wych yn fy nghefnogi trwy gydol y broses ymgeisio i sicrhau cyllid a hyfforddiant. Buom yn gweithio gyda’n gilydd ar gynllun gweithredu ac roeddwn i wedi ymchwilio i swyddi y byddwn yn medru ymgeisio amdanynt ar ôl hyfforddiant."
Ar ôl ystyried ei holl opsiynau’n ofalus, aeth Christopher ymlaen i ymgeisio am ei drwydded Gyrru CPC, sy’n datblygu sgiliau a gwybodaeth gyrwyr cerbydau nwyddau trwm (HGV).
“Roedd y cwrs yn wych ac o fewn dau fis roeddwn wedi llwyddo i ennill yr holl gymwysterau angenrheidiol er mwyn sicrhau swydd. Roedd y cyngor a’r gefnogaeth dderbyniais gan Cymru’n Gweithio o’r safon uchaf a bu’r rhaglen Fynediad yn achubiaeth i mi.”
Sicrhau swydd a symud ymlaen i ddysgu pellach
Diolch i’r cyllid, mae Christopher bellach wedi sicrhau swydd newydd ac yn astudio ar gyfer gradd.
Oni bai am Cymru’n Gweithio, dwi ddim yn credu y byddwn i yn y sefyllfa yr ydw i ynddi nawr. Mae’r teimlad o lwyddiant rydw i wedi ei brofi yn wych ac mae wedi rhoi’r anogaeth i mi astudio am radd. Rwyf bellach yn gweithio tuag at ennill BSc mewn Cyfrifiadura, TG a Busnes gyda’r Brifysgol Agored.”
*Mae Cymru’n Gweithio yn cael ei ddarparu gan Gyrfa Cymru ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Archwilio
Os ydych chi'n byw yng nghymoedd De Cymru, mae'r arian Mynediad yn darparu grantiau hyfforddiant galwedigaethol i'ch helpu i ddiweddaru eich sgiliau a gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth.
Cyllid ar gael yng Nghymru ar gyfer cyrsiau hyfforddi, colegau a phrifysgolion.
Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned.
Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr, a mwy.
Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni