Os ydych yn gadael yr ysgol, dewch i wybod sut, fel cyn-ddisgybl, y gallwch chi helpu disgyblion yn eich hen ysgol.
Gall alumni (cyn-ddisgyblion) godi ymwybyddiaeth disgyblion o'r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael. Mae llawer o ffyrdd y gall alumni ymwneud â’u hen ysgolion. Gallai hyn fod drwy:
- Gymryd rhan mewn gweithgareddau gyrfaoedd
- Rannu eu straeon gyda disgyblion
- Gynnig profiad gwaith neu gyfleoedd cysgodi
- Roi cyflwyniadau
Darllenwch am waith Ashleigh fel alumni
Mae Ashleigh yn gwirfoddoli yn ei hen ysgol. Mae'n helpu'r disgyblion presennol i gymryd mwy o ran yn eu penderfyniadau gyrfa.
Gadawodd Ashleigh Davies Ysgol Uwchradd Cyfarthfa ym Merthyr Tudful yn 2015. Mae hi bellach yn beiriannydd. Mae'n helpu i ddylunio systemau ar gyfer adeiladau, fel systemau gwresogi, oeri ac awyru.
Yr hyn y mae Ashleigh yn ei gynnig
Mae Ashleigh yn credu y dylai pawb, beth bynnag fo'u cefndir, gael cyfle i ddysgu am yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael.
Mae Ashleigh yn gwirfoddoli yn ei hysgol drwy helpu gyda ffug gyfweliadau. Mae hi hefyd yn cynnal sesiynau holi ac ateb am ei swydd a'r hyn y mae'n ei olygu.
Meddai Ashleigh, “Ar ôl siarad â phobl eraill yn y gwaith, dysgais eu bod wedi cael gwybodaeth am lawer o wahanol fathau o swyddi yn ystod eu hamser yn yr ysgol. Aeth llawer ohonyn nhw i ysgolion preifat.
“Does dim ots am eich cefndir na ble'r aethoch chi i’r ysgol. Mae’n bwysig bod pob plentyn yn cael yr un cyfle i ddysgu am opsiynau gyrfa.”
Eisiau cymryd rhan?
Fel rhan o gynllun Adnewyddu a Diwygio Llywodraeth Cymru, sy'n gynllun adfer o Covid-19, rydym yn chwilio am bobl i ymuno â'r rhwydwaith alumni. Cofrestrwch eich diddordeb.