Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori India

Llun o India

Ar ôl profi colled bersonol a gorbryder, cafodd India gefnogaeth i sicrhau nifer o gynigion prifysgol i ddilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth.

Dod o hyd i gefnogaeth yn ystod cyfnod anodd

Roedd India newydd gwblhau ei harholiadau TGAU pan bu farw ei nain yn drasig. Cafodd hyn effaith fawr ar ei hiechyd meddwl a’i chamau nesaf. Eglurodd: “Roedd gen i orbryder difrifol iawn ac roedd popeth yn teimlo’n ansicr. Gwnaeth hyn fy nhaflu oddi ar y trywydd roeddwn am ei gymryd yn llwyr.”

Er gwaethaf bod yn fyfyrwraig alluog, roedd India yn ei chael hi’n anodd mynychu’r ysgol ac ymgysylltu â’r gwersi. “Doeddwn i ddim yn adolygu, doeddwn i ddim yn gwneud unrhyw ymdrech. Doeddwn i ddim ar lwybr da.”

Dod yn ôl ar y trywydd iawn

Cyrhaeddodd India drobwynt pan gyfarfu â Christie, ei chynghorydd gyrfa. “Roeddwn i eisiau gadael y chweched dosbarth ac ailddechrau yn y coleg,” meddai hi. “Ond cynghorodd Christie fi i ddal ati a gorffen y flwyddyn. Dywedodd byddai modd ailasesu ym mis Medi.”

“Nid dim ond cynghorydd gyrfa oedd Christie, ond roedd hi’n rhywun y gallwn i siarad â hi. Roedd ganddi hi egni cadarnhaol iawn a helpodd hi fi trwy gyfnod anodd.”

Cwblhaodd India ei lefelau UG ac, er nad oedd y canlyniadau yr hyn yr oedd hi wedi gobeithio eu cael, roedd hi’n falch o’i gwydnwch. “Roeddwn i’n fwy balch o’r ffaith fy mod i wedi dal ati.”

Archwilio opsiynau a gwneud penderfyniadau

Wrth i India ddechrau Blwyddyn 13, dechreuodd ystyried ei chamau nesaf. Roedd ganddi ddiddordeb yn y cyfryngau a gwleidyddiaeth ond yn ansicr a oedd prifysgol neu brentisiaeth yn llwybr cywir.

“Rydw i wastad wedi bod eisiau mynd i’r brifysgol, ond roeddwn i’n dal i fod rhwng dau feddwl am beth i wneud,” meddai hi.“Dywedodd Christie wrtha i am brentisiaeth gyda’r BBC a helpodd hi fi gyda fy nghais a’m llythyr eglurhaol.”

Gwnaeth India gais am brifysgol a’r brentisiaeth. Aeth ymlaen i’r ail gam yn y broses gyda’r BBC ond ni aeth ymhellach na’r pwynt hwn.

Edrych ymlaen at y dyfodol

Gwnaeth India gais i bum prifysgol i astudio newyddiaduraeth a chafodd gynigion gan bob un ohonynt. Gyda chymorth Christie, dewisodd Brifysgol Caerdydd fel ei dewis cadarn a Phrifysgol Bath Spa fel ei dewis yswiriant.

“Fe helpodd hi fi i edrych ar y cyrsiau a hyd yn oed pethau fel teithio,” eglura India. “Roeddwn i eisiau bod yn ddigon pell i ffwrdd i deimlo’n annibynnol, ond nid mor bell fel mod i’n hiraethu am adref. Roedd Caerdydd yn berffaith – dim ond awr a hanner i ffwrdd.”

Teimlo'n hyderus a chael cefnogaeth

Mae India yn rhoi clod i Christie am ei helpu i ddod o hyd i hyder. “Hebddi hi, fyddai gen i ddim unrhyw fath o gymhelliad na strwythur. Helpodd hi fi i ddod yn ôl ar y trywydd iawn nid yn unig gyda fy addysg, ond gyda fy mywyd personol hefyd.”

Gan aros nawr am ei chanlyniadau Safon Uwch, mae India yn gyffrous am y dyfodol ac yn awyddus i rannu ei stori. “Rwy’n fwy na pharod i siarad am y gorbryder a brofais i. Mae’n bwysig i bobl ifanc wybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain – a bod bobl fel Christie ar gael i helpu.”

Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.


Archwilio

Gwarant i Bobl Ifanc

Cyfle gwarantedig i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.

Prifysgol ac addysg uwch

Dysgwch am fynd i'r brifysgol, gan gynnwys proses ac amserlen Ymgeisio UCAS. Mae hefyd yn cynnwys astudio dramor.