Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Roxanne

Roxanne

Ar ôl cael cymorth gyda'i sgiliau cyfweliad, mae Roxanne wedi cael swydd mewn cwmni yswiriant.

Roedd Roxanne, 23 oed o Abertawe, wedi symud yn ôl i Gymru yn ddiweddar ar ôl cwblhau gradd mewn Economeg Busnes mewn prifysgol yn Llundain. Roedd hi'n wynebu heriau o ran dod o hyd i swydd.

Canfu Roxanne ei bod yn cyrraedd y camau cyfweld terfynol yn gyson ond ei bod yn cael trafferth cael swydd. Argymhellodd swyddog Credyd Cynhwysol Roxanne ei bod yn gofyn am gymorth i Cymru’n Gweithio.

Cefnogaeth cyfweliad

Cynigiwyd apwyntiad iddi gydag Aaron, sy’n gweithio fel Anogydd Cyflogadwyedd. Gyda'i gilydd, gwnaethant nodi maes allweddol ar gyfer gwella oedd ei thechneg cyfweliad.

Dywedodd Roxanne:“Aeth Aaron a minnau trwy’r broses o wneud ffug gyfweliad. Gwnaethom gofnodi fy ymatebion a'u hadolygu i weld lle'r oedd fy nghryfderau a lle'r oedd angen i mi wella.

“Gwnaethom weithio’n benodol ar y dechneg STAR (sefyllfa, tasg, gweithred, canlyniad). Gwnaeth hyn fy helpu i deimlo’n llawer mwy hyderus yn mynd i’m cyfweliad nesaf.”

Cael swydd

Yn fuan ar ôl eu sesiynau, cafodd swydd gydag ERS Insurance. Mae'r cwmni’n arbenigo mewn peiriannau amaethyddol a cheir perfformiad uwch.

Dywedodd Roxanne: “Gwnaethon ni ymarfer y dechneg gyfweld y diwrnod cyn fy nghyfweliad go iawn. Gwnaeth hyn wahaniaeth mawr. Roeddwn i’n hyderus wrth ateb, ac roeddwn i’n gwybod sut i gyflwyno fy hun yn dda.”

Mae hi'n edrych ymlaen at ei rôl newydd fel technegydd hawliadau ac yn ei weld fel carreg gamu yn ei thaith gyrfa.

Cyngor i eraill

Mae Roxanne yn annog pobl eraill sy'n cael trafferth dod o hyd i waith i fod yn agored i gael cefnogaeth.

Dywedodd: “Mae’n iawn gofyn am gefnogaeth. Rwy'n meddwl bod llawer o bobl yn eu hugeiniau yn teimlo pwysau i wneud y cyfan ar eu pen eu hunain.  Ond mae gwasanaethau fel Gyrfa Cymru yno am reswm.

“Byddwch yn onest am eich sefyllfa gyda’ch cynghorydd – dyna pryd y gwelwch chi’r canlyniadau gorau. Byddwn i wir yn annog pobl eraill i fanteisio ar y gefnogaeth sydd gennym yng Nghymru."

Ychwanegodd: “Roedd Aaron yn garedig iawn ac yn barod i helpu. Gwnaeth ei gefnogaeth wahaniaeth mawr o ran fy helpu i baratoi ar gyfer y swydd yr oeddwn ei heisiau.”

Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.


Archwilio

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.