Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Alys

Llun o Alys

Mae’r myfyriwr graddedig o Rydaman yn annog pobl ifanc i ystyried yn ofalus eu hopsiynau wrth gasglu eu canlyniadau eleni.

Roedd Alys Mai Walters, a raddiodd yn ddiweddar o Gaerdydd, yn gwybod ei bod am fynd i'r brifysgol o oedran ifanc. Dywedodd hi: “Fy chwaer hŷn oedd y cyntaf yn ein teulu i fynd i’r brifysgol. Roeddwn i wastad wedi eisiau dilyn yr un llwybr â hi, felly penderfynais wneud cwrs israddedig a gwneud cais i Brifysgol Caerdydd i astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth.

Symud i Gaerdydd

“Roedd symud i Brifysgol Caerdydd yn frawychus i ddechrau, ond rydych chi i gyd yn yr un cwch ac mae pawb yn teimlo'r un peth, felly rydych chi'n gwneud ffrindiau'n gyflym ac mae pawb yn uno. Mae llawer o gefnogaeth ar gael i fyfyrwyr. Rydych chi'n delio ag arian am y tro cyntaf, ac yn enwedig yn ystod yr amseroedd rydyn ni'n byw ynddynt nawr, mae'r brifysgol wedi darparu llawer o gefnogaeth yn ymwneud â chostau byw, a oedd mor ddefnyddiol."

Fe wnaeth Prifysgol Caerdydd helpu Alys i gael lleoliadau profiad gwaith â thâl tra’n astudio, a dywed bod y Brifysgol wedi ei helpu i gael swydd yng Nghaerdydd ar ôl gorffen ei gradd.

"Mae'r brifysgol yn llawer o hwyl, yn enwedig y cwrs y gwnes i ei ddewis. Cefais gyfle i gymryd rhan mewn cymaint o brofiadau o fewn a thu allan i’m gwaith academaidd,” meddai.

“Rhoddodd y profiadau a ddarparwyd gan fy mhrifysgol fantais i mi. Rwy'n credu'n gryf bod profiadau gwaith allanol, a chyfleoedd i wneud cysylltiadau newydd a gweithio gyda phobl eraill, wedi rhoi'r hyder i mi gael swydd newydd yn syth ar ôl graddio."

Cymorth Cymru'n Gweithio

Yn ogystal â chefnogaeth drwy ei phrifysgol, llwyddodd Alys i gael cyngor ac arweiniad am ddim drwy Cymru'n Gweithio i'w helpu i benderfynu ar lwybr a dod o hyd i swydd.

Dywedodd hi: "Mynd i Brifysgol Caerdydd oedd y dewis iawn i mi. Os ydych chi'n ystyried gwneud cais, byddwn yn ystyried y lleoliad sy’n iawn i chi ac yn gwneud yn siŵr bod y cwrs yn apelio’n fawr atoch chi - pa bynnag gwrs fydd hynny.

Cyngor i eraill

“Dewiswch rywbeth y gallwch chi weld dyfodol ynddo, ond yn bwysicaf oll, dewiswch rywbeth rydych chi'n ei fwynhau ac yn gallu gweld eich hun yn ei wneud. Roedd Cymru'n Gweithio yn help mawr i mi yn bersonol - ac roedd yr holl gyngor ges i ganddyn nhw yn rhad ac am ddim. Os nad ydych chi'n siŵr am eich camau nesaf, gallan nhw eich helpu chi hefyd."


Archwilio

Gwarant i Bobl Ifanc

Cyfle gwarantedig i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.

Prifysgol ac addysg uwch

Dysgwch am fynd i'r brifysgol, gan gynnwys proses ac amserlen Ymgeisio UCAS. Mae hefyd yn cynnwys astudio dramor.


Mwy o straeon go iawn

Stori Lucie

Mae entrepreneur o Sir Benfro yn annog pobl ifanc i ystyried eu hopsiynau wrth gael eu canlyniadau yr haf hwn.

Stori Evelyn

Darganfu Evelyn ei hangerdd am y cyfryngau diolch i athrawes ysbrydoledig yn ystod ei harholiadau TGAU a Safon Uwch.