Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Gweithio ym maes gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar

Childcare practitioner talking with 3 children in a nursery

Ydych chi'n mwynhau helpu plant i ddysgu ac i ddatblygu? Efallai mai gyrfa mewn gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yw’r gyrfa i chi.

Mae gofalu am blant a’u cefnogi i chwarae, dysgu, datblygu a thyfu yn un o’r gyrfaoedd mwyaf gwerthfawr sydd ar gael.

Beth yw natur y gwaith?

Gallech fod yn gweithio gyda babanod a phlant ifanc, a phlant hŷn hyd at 12 oed.

Byddwch yn gofalu am blant ac yn eu cefnogi, yn diwallu eu hanghenion ac yn sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel ac yn hapus. Byddwch hefyd yn gwneud yn siŵr eu bod yn profi gweithgareddau hwyliog, diddorol sy'n gymorth iddyn nhw dyfu a datblygu.

Pa sgiliau a hyfforddiant fydd eu hangen arna i?

Os ydych chi’n frwdfrydig, yn gadarnhaol, ac yn awyddus i ofalu am eraill, yna mae llawer o swyddi gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar a fyddai’n addas i chi.

Yn y rhan fwyaf o rolau gallwch ennill hyfforddiant a chymwysterau sydd eu hangen arnoch tra’n gweithio.

Mae yna lawer o ffyrdd o weithio'n hyblyg, felly mae modd gofalu am blant mewn ffordd sy’n addas i chi a’ch teulu.

Cyflwyniad i ofal plant

Mae hwn yn gwrs hyfforddi deuddydd am ddim i unrhyw un sy'n byw yng Nghymru sydd â diddordeb mewn gweithio yn y maes gofal plant.

Mae'r hyfforddiant yn cwmpasu'r hanfodion sydd eu hangen i weithio yn y maes gofal plant, gan gynnwys arferion gweithio diogel a gweithio mewn ffyrdd sy'n canolbwyntio ar y plant.

Gallwch gael mwy o wybodaeth neu gofrestru eich diddordeb gyda Gofalwn Cymru.

Cymwysterau Craidd Lefel 2

Mae'r cymwysterau craidd lefel 2 yn addas i rai dros 16 oed sy'n dymuno gweithio ym maes gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar mewn rôl fel cynorthwyydd.

Mae hyn yn golygu y byddech yn helpu i ofalu am blant ond ni fyddech yn goruchwylio staff eraill sy'n gweithio gyda chi. Bydd cyflawni'r cymhwyster craidd hwn yn rhoi'r wybodaeth graidd sydd ei hangen arnoch i weithio ym maes gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar.

Gallwch astudio ar gyfer y cymhwyster hwn mewn coleg addysg bellach neu chweched dosbarth ysgol os ydynt yn cynnig y cwrs.

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3

Os ydych chi’n dymuno gofalu am blant mewn rôl heb oruchwyliaeth neu rôl oruchwyliol rhaid i chi ennill cymhwyster Lefel 3. Mae hwn yn seiliedig ar ymarfer ac yn profi eich sgiliau a'ch gwybodaeth a'ch gallu i ofalu am blant drwy weithio mewn lleoliad gofal plant.

Byddwch yn dysgu am:

  • Iechyd, lles, dysgu a datblygiad
  • Ymarfer proffesiynol
  • Diogelu plant
  • Iechyd a diogelwch
  • Datblygiad plant
  • Lleferydd, iaith, a chyfathrebu
  • Cefnogi plant (maeth a hydradu)

Gyda’r cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3, ar ôl dwy flynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gofal dydd fe allech gymhwyso fel person â gofal am leoliad gofal dydd i blant.

O fis Medi 2022, efallai y bydd angen i chi hefyd ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae. Bydd hyn yn dibynnu ar eich rôl.

Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Os oes gennych gymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3 neu os oes gennych un o’r cymwysterau sydd wedi’u derbyn ar restr Gofal Cymdeithasol Cymru (Dirprwy reolwr creche / gofal dydd), efallai y byddwch am symud ymlaen ymhellach.

Mae Cymhwyster Lefel 4:

  • Yn ‘garreg gamu’ i’r rhai sydd eisiau symud ymlaen i Lefel 5
  • Wedi’i gynllunio i’ch helpu chi i ddatblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth allweddol sydd eu hangen ar gyfer rôl arwain a rheoli yn y sector Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar. Gallwch chi gwblhau hyn heb fod mewn rôl arwain
  • Yn cynnwys arfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn, fframweithiau damcaniaethol ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth, deall sut i arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol

Bydd galw mawr amdanoch chi

Nawr yn fwy nag erioed, mae angen pobl i ddarparu gofal, cymorth, a chyfleoedd llawn hwyl i blant.

Ar gyfartaledd, mae dros 400 o hysbysebion ar gyfer swyddi gofal plant bob mis yng Nghymru. (LightcastTM, Awst 2023 i Gorffennaf 2024)

Y swyddi mewn gofal plant sydd wedi eu hysbysebu fwyaf ar-lein yn ystod y 12 mis diwethaf yng Nghymru yw:

  • Cymorthyddion addysg gynnar a gofal plant (Cymorthyddion Meithrin)
  • Ymarferyddion addysg gynnar a gofal plant (Nyrsys Meithrin)
  • Nani ac au pair
  • Gwarchodyddion plant
  • Swyddogion chwarae

(LightcastTM, Awst 2024)

Archwilio rolau swyddi

Nani

Dysgwch fwy am fod yn nani ac os yw'n addas i chi.

Mwy o help i benderfynu

Os nad ydych chi’n siŵr am yrfa mewn gofal, rhowch gynnig ar adnodd dysgu Gofalwn Cymru 'Gofal yn Galw: gyrfa i chi' i weld sut beth yw gyrfa mewn gofal plant. Unwaith y byddwch wedi cwblhau dwy o'r heriau, byddwch yn derbyn proffil personol a all eich helpu i benderfynu a yw gofal plant yn addas i chi.

Dysgwch fwy am y swyddi sydd ar gael yn gweithio gyda phlant yng Nghymru, trwy ddarllen straeon go iawn ar Gofalwn Cymru.

Dod o hyd i swyddi

Os ydych chi’n meddwl y gallai swydd ym maes gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar fod yn addas i chi, mae rhai pethau y gallwch chi eu gwneud:

  • Dewch o hyd i swyddi gwag yn eich ardal chi ar Gofalwn Cymru swyddi
  • Gwiriwch am swyddi gwag a hysbysebwyd gyda'ch cyngor lleol
  • Galwch mewn i fusnesau lleol i gyflwyno'ch hun a gadael eich CV
  • Cysylltwch â chynghorydd Cymru'n Gweithio am sgwrs am eich dyfodol a gweld pa gymorth sydd ar gael i chi
  • Edrychwch ar y dolenni isod am ragor o gyfleoedd a swyddi gwag
Gwefannau Swyddi

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Bwletin Swydd

Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru. 

Llwybrau i ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar

ReAct+

Nod rhaglen ReAct+ yw helpu unigolion 20 oed a throsodd, sydd wedi’u heffeithio gan ddiswyddo, i ennill y sgiliau y mae cyflogwyr sy’n recriwtio yn chwilio amdanyn nhw.

Rhaid i bob ymgeisydd sy’n gwneud cais am grantiau ReAct+ ofyn am gyngor ac arweiniad gan un o gynghorwyr gyrfa Cymru’n Gweithio. Bydd y cyngor a'r arweiniad hwn yn ystyried y farchnad lafur.

Gall rhaglen ReAct+ ddarparu grant o hyd at £1,500 ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol a hyd at £200 i helpu gyda chostau sy’n gysylltiedig â hyfforddiant, er enghraifft costau teithio. Mae cymorth ychwanegol ar gyfer costau gofal a gofal plant i ddileu rhwystrau i gyflogaeth hefyd ar gael.

Dysgu mwy am ReAct+.

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau ar gael ar lefelau 2,3,4 a 5.

Mae rolau prentisiaeth yn amrywio o ymarferydd cynorthwyol gofal dydd neu creche a gweithwyr gofal cymdeithasol i reolwyr a dirprwy reolwyr lleoliadau’r blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol.

Dysgu mwy am brentisiaethau yng Nghymru.

Cyfle i glywed gan y rhai sydd wedi cwblhau prentisiaeth mewn gofal ar wefan Gofalwn Cymru.

Hyfforddiant PACEY

Mae PACEY yn darparu hyfforddiant i helpu i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a hunanhyder.

Mae ystod o hyfforddiant ar gael gan gynnwys hyfforddiant cyn-gofrestru i warchodwyr plant, i hyfforddiant diogelu i unrhyw un sy'n gweithio gyda phlant.

Dysgu mwy am hyforddiant PACEY. (Saesneg yn unig)