Ymunwch â’r gweithwyr proffesiynol sy’n cadw’r wlad i fynd.
Y sector trafnidiaeth a logisteg yw un o’r sectorau mwyaf yn y byd, sy’n cynnig llwyth o fathau gwahanol o yrfaoedd.
Fe allech fod ar y ffordd fawr (neu yn yr awyr neu ar y môr). Ond mae llawer o swyddi swyddfa sy’n ymwneud â symud pethau o un lle i’r llall hefyd, ac mae digonedd o gyfleoedd gyrfaol oherwydd bod y diwydiant trafnidiaeth mwyaf yn Ewrop yma, yn y Deyrnas Unedig. Gallech fod yn gweithio gyda’ch dwylo, mireinio’ch sgiliau gwerthu, neu’n cynllunio ffyrdd i weithrediadau redeg yn llyfn – a dim ond megis dechrau yw hyn.
Bydd galw mawr amdanoch chi
Mae galw mawr am bobl i weithio yn y sector trafnidiaeth a logisteg. Ar gyfartaledd, mae dros 1,800 o hysbysebion ar gyfer swyddi trafnidiaeth a logisteg bob mis yng Nghymru. (LightcastTM, Awst 2023 i Gorffennaf 2024)
Y 10 swydd mewn trafnidiaeth a logisteg sydd wedi cael eu hysbysebu ar-lein fwyaf yn ystod y 12 mis diwethaf yng Nghymru yw:
- Gyrwyr Cerbydau Nwyddau Mawr (HGV)
- Clercod a chymorthyddion cludiant a dosbarthu
- Gyrwyr tryciau fforch godi
- Gyrwyr cludiant ar y ffordd
- Gyrwyr tacsis a chabiau a chauffeurs
- Rheolwyr ym maes trafnidiaeth a dosbarthu
- Gyrwyr eraill a gweithredyddion trafnidiaeth
- Gyrwyr faniau
- Gyrwyr bysiau a choetsis
- Rheolyddion ym maes logisteg
(LightcastTM, Awst 2024)
Mae galw mawr o hyd am bobl sy’n gyrru bysiau. Gyda 100 miliwn o deithiau bws yn rhedeg ledled Cymru, mae’r rôl hyn yn dod yn fwyfwy pwysig i fywydau pob dydd pobl.
Hyfforddiant i gyrraedd pen eich taith
ReAct+
Nod rhaglen ReAct+ yw helpu unigolion 20 oed a throsodd, sydd wedi’u heffeithio gan ddiswyddo, i ennill y sgiliau y mae cyflogwyr sy’n recriwtio yn chwilio amdanyn nhw.
Cyfrifon Dysgu Personol
Mae’r rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol wedi ei chyflwyno i alluogi pobl sydd wedi’u cyflogi i uwchsgilio a chael sgiliau gwahanol ar gyfer sectorau â blaenoriaeth, i gryfhau eu sefyllfa yn y farchnad lafur ac i wella’u cyfleoedd am yrfa a chyflog. Yn benodol, mae’r rhaglen yn anelu at helpu pobl sy’n ennill cyflog is na’r cyflog canolrifol i gynyddu’u cyflogau.
Rhaglen Prentisiaethau
Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau yn cynnwys rhai opsiynau sy’n canolbwyntio ar logisteg, un o’r rhain yw’r cymhwyster Lefel 2 a 3 mewn Gyrru Cerbydau Nwyddau.
Lle i ddod o hyd i swyddi ym maes trafnidiaeth a logisteg
Os ydych yn credu mai swydd yn y maes trafnidiaeth a logisteg yw’r peth i chi, mae camau y gallwch eu cymryd:
- Edrychwch am gyfleoedd yn eich ardal leol – mae llawer o fusnesau yn hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol neu hyd yn oed yn rhoi hysbysebion yn y ffenest
- Ewch o amgylch busnesau i gyflwyno’ch hun a gadael eich CV
- Cysylltwch â chynghorydd Cymru’n Gweithio am sgwrs am eich dyfodol
- Edrychwch am gyfleoedd a swyddi gwag ar y dolenni isod

Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru.

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Cymerwch olwg ar y cyflogwyr sy’n recriwtio ar hyn o bryd. Dechreuwch chwilio am swydd yma.

Dewch o hyd i gyflogwyr sy’n cynnig prentisiaethau ym maes trafnidiaeth a logisteg, gan gynnwys gweithio mewn warysau, gyrru a llawer mwy.

Dewch i edrych ar y mathau gwahanol o swyddi y gallwch eu gwneud o fewn y maes trafnidiaeth a logisteg, gan gynnwys manylion am y swyddi, y cyflog, y cymwysterau a’r sgiliau angenrheidiol a llawer mwy.
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni
Gwybodaeth i gyflogwyr
Os ydych yn gyflogwr, efallai y gallech chi hefyd gael cymorth.
Archwilio

Sicrhewch fod eich CV o'r safon orau bosibl. Dewch i wybod beth yw gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CVs, a lawrlwytho ein Canllaw i ysgrifennu CV.

Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.

Cewch wybod beth i'w ysgrifennu mewn llythyr cais neu e-bost.