Colli swydd yn ddechrau pennod newydd i Ben.
Cyrraedd croesffordd mewn bywyd
Roedd Ben, sy'n byw yn y Gogledd, wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus yn y maes gwerthu a marchnata ers dros 20 mlynedd. Roedd ei swyddi bob amser yn seiliedig ar dargedau ac er bod y targedau'n cynyddu'n gyson, roedd Ben yn llawn cymhelliant i'w cyflawni.
Cafodd Ben ei hun ar groesffordd yn gynnar yn 2020 ar ôl newidiadau mawr yn ei fywyd preifat. Yn sgil hynny, dechreuodd bwyso a mesur ei fywyd gwaith i ddarganfod yr hyn yr oedd ei eisiau ym mhennod nesaf ei fywyd.
Dywed Ben “Rwyf wedi gweithio mewn amgylchedd gwerthu drwy gydol fy mywyd gwaith - dyna'r unig faes rwy'n gyfarwydd ag ef. Rwy'n teimlo'n gyfforddus yn y diwydiant ac rwy'n dda am wneud fy swydd, ond yn sgil cyfres o ddigwyddiadau yn fy mywyd personol, penderfynais ailedrych ar fy mywyd gwaith.
“Rwyf wedi bod yn ffodus bod fy ngwaith yn y maes gwerthu wedi caniatáu i mi ddatblygu cysylltiadau â nifer o fusnesau a chleientiaid ledled y DU. Drwy hynny, dechreuais arbenigo mewn gweithio gyda chwmnïau ynni adnewyddadwy a ysgogodd hynny angerdd ynof.
“Dechreuais feddwl tybed a allwn arallgyfeirio i'r maes hwnnw. Ar ôl peth ymchwil, gwelais nad oedd gennyf y sgiliau na'r hyfforddiant angenrheidiol ac nid oedd gennyf yr arian i ailhyfforddi."
Cyfle i newid
Roedd bywyd ar fin newid unwaith eto i Ben pan gafodd wybod y gallai golli ei swydd.
Dywed Ben “Roedd y posibilrwydd o golli fy swydd yn peri pryder i mi ac roeddwn yn poeni sut y byddai'n effeithio arnaf yn ariannol. Roeddwn yn ymwybodol iawn y gallai pobl sy’n colli eu swydd fod yn gymwys i gael cymorth ac roeddwn yn awyddus i gael mwy o wybodaeth."
Cysylltodd Ben â Cymru'n Gweithio drwy'r gwasanaeth ffôn a gweithiodd gyda'r cynghorydd gyrfa Lyn Smith, sydd wedi'i lleoli yng nghanolfan Gyrfa Cymru Llandudno.
Gweithiodd Lyn gyda Ben a chadarnhaodd, yn dilyn yr hysbysiad diswyddo, y byddai'n gymwys i gael cymorth ariannol i helpu gydag uwchsgilio ac ailhyfforddi.
Roedd Ben wrth ei fodd gan y byddai hyn yn ei alluogi i ddilyn cyrsiau i wella ei siawns o gael gwaith yn y diwydiant ynni adnewyddadwy.
Dechrau pennod newydd
Cyfeiriwyd Ben at Advanced Blade Repair Services, darparwr hyfforddiant sy'n arbenigo mewn hyfforddiant ar dyrbinau gwynt.
Dywed Ben “Ni allwn fod wedi manteisio ar yr hyfforddiant heb yr arian diswyddo. Bydd y cyrsiau hyn yn agor drysau i mi mewn ystod eang o swyddi yn y diwydiant ynni adnewyddadwy.
“Rwyf hefyd wedi darganfod, yn ogystal â'r cyllid a gefais, y bydd unrhyw gwmni cymwys sy'n fy recriwtio yn cael cymhelliad ariannol hefyd. Mae hwn yn ychwanegiad gwych at fy CV sydd newydd gael ei ddiweddaru!"
Os ydych chi, fel Ben, yn wynebu colli eich swydd ac os oes angen cymorth ariannol arnoch i gael hyfforddiant ac i uwchsgilio, ewch i: Cymorth ar ôl Colli Swydd.
Os ydych yn yr ysgol neu’r coleg ar hyn o bryd ac os hoffech ymchwilio i’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, siaradwch ag aelod o staff all eich cynghori ar sut i drefnu apwyntiad. Gallwch chi neu eich rhiant, gwarchodwr neu ofalwr hefyd ein ffonio am ddim ar 0800 028 4844, e-bost post@gyrfacymru.llyw.cymru neu gysylltu drwy’r cyfleuster sgwrs fyw.
Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac os hoffech chi ymchwilio i'ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â thîm Cymru'n Gweithio drwy eu ffonio am ddim 0800 028 4844, e-bost cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru neu drwy ein sgwrs fyw.
Archwilio
Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.
Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned.
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni