Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE)

Os gofal plant yw’r prif beth sy’n eich rhwystro rhag dechrau gwaith, mae cymorth ar gael gyda PaCE.

Beth yw PaCE?

Bydd PaCE yn talu cost gofal plant i’ch helpu i baratoi at waith a dechrau gweithio. 

Mae cynghorwyr cyfeillgar yn gweithio mewn cymunedau ledled Cymru i’ch helpu i ddod o hyd i ofal plant a swydd sy’n gweddu i chi.

Hefyd, mae PaCE yn cynnig cymorth i fagu eich hyder, cael profiad gwaith, dysgu sgiliau newydd neu ailysgrifennu eich CV. Cewch gymorth fel unigolyn a gall cynghorwyr gwrdd â chi yn eich cymuned leol.                          

Ariennir PaCE gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.                

Beth yw manteision PaCE?

Gall eich cynghorwr PaCE eich helpu i ddeall sut bydd costau gofal plant yn cael eu talu cyn ichi ddechrau’r gwaith ac ar ôl ichi ddechrau’r gwaith.

Gallant eich helpu i gael gwybod a fyddech yn ennill mwy drwy weithio, a’ch helpu i ddod o hyd i swydd sy’n addas i chi, a honno’n rhan-amser neu’n amser llawn.

Gall eich cynghorwr ddweud wrthych hefyd sut mae cael gwybod am y gofal plant yn eich ardal chi, a rhoi gwybod am gymorth arall y gallech ei hawlio efallai drwy’r Cynnig Gofal Plant neu Gredyd Cynhwysol pan ddechreuwch weithio, a gall dalu am ofal plant tra byddwch yn hyfforddi neu’n cael profiad gwaith drwy brosiect PaCE, gan wella eich gobeithion o gael swydd.     

Sut mae PaCE yn gweithio?

Bydd gennych eich cynghorwr PaCE eich hun, a fydd yn cwrdd â chi mewn man sy’n gyfleus ac agos i chi. Bydd yn canfod pa gymorth sydd ei angen arnoch pan fyddwch yn cwrdd, ac yn cytuno ar gamau nesaf gyda chi. Nid oes rhaid ichi ymuno â PaCE, eich penderfyniad chi’n llwyr yw hynny, a gallwch benderfynu a fydd PaCE o fudd i chi ar ôl eich cyfarfod â’ch cynghorwr. Os byddwch yn penderfynu ymuno â PaCE, bydd eich cynghorwr yn trefnu cwrdd neu gysylltu â chi’n rheolaidd i sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch i ddechrau’r gwaith.

Mae gen i ddiddordeb mewn PaCE, beth sydd angen imi ei wneud?

Eich cam cyntaf yw gweld cynghorwr Gyrfa Cymru a fydd yn trafod eich anghenion ac yn eich helpu i gysylltu â’ch cynghorwr PaCE lleol. 

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.

Canfod Cymorth

Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith