Cymorth gyrfa yn helpu Tom i ddarganfod brwdfrydedd dros newyddiaduraeth chwaraeon ac i fentro i’r brifysgol.
Mae Tom, o Grucywel, yn astudio ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw ar hyn o bryd. Wrth orffen yn y chweched dosbarth, roedd yn teimlo’n ansicr ynglŷn â’i ddyfodol, ac nid oedd ganddo gynllun pendant. Ar y pryd, ei unig gynllun oedd cymryd blwyddyn i ffwrdd i deithio, heb ystyried mynd i’r brifysgol o gwbl.
Dywedodd Tom, ‘Doedd gen i ddim dyheadau, a dweud y gwir. Doeddwn i ddim yn siŵr beth oeddwn i’n mynd i’w wneud, ac yn gobeithio y byddai popeth yn dod at ei gilydd.'
Cael rhywfaint o gyfarwyddyd
Roedd cymryd arholiadau yn anodd i Tom, ac roedd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i gymhelliant tuag at ddiwedd ei gyfnod yn yr ysgol. Er bod ganddo ddiddordebau mewn chwaraeon, y cyfryngau a thechnoleg gwybodaeth, nid oedd ganddo’r hyder i’w harchwilio fel opsiynau gyrfa, ac roedd eisoes wedi diystyru rhai llwybrau.
Wrth iddo ystyried cymryd amser i deithio, anogodd ei fam ef i siarad â chynghorydd gyrfa.
Dywedodd Tom, ‘Doeddwn i ddim wir eisiau siarad amdano. Roeddwn i’n gobeithio y byddai popeth yn datrys ei hun. Ond yn y diwedd, fe es i i’r apwyntiad.’
Yn ystod ei gyfarfod â chynghorydd Gyrfa Cymru, Vicky, bu’r ddau yn trafod ei ddiddordebau a’r hyn yr oedd yn mwynhau ei wneud.
Dywedodd, ‘Gofynnodd Vicky i mi beth roeddwn i’n hoffi ei wneud, a beth oedd gen i ddiddordeb ynddo. O’r fan honno, rhoddodd lawer o opsiynau gwahanol i mi nad oeddwn wedi meddwl amdanynt o’r blaen.’
Canfod diddordeb mewn cyfryngau chwaraeon
Drwy’r sgyrsiau hyn, dechreuodd Tom feddwl am sut y gallai ei ddiddordeb mewn chwaraeon gysylltu â gyrfa yn y dyfodol.
Dywedodd, ‘Rydw i wedi bod yn gefnogwr mawr o chwaraeon erioed. Dyna beth rwy’n ei fwynhau fwyaf, ac roeddwn i’n hoffi’r syniad o wneud rhywbeth fel newyddiaduraeth chwaraeon.’
Er nad oedd wedi bod eisiau mynd i’r brifysgol yn wreiddiol, anogodd Vicky ef i gadw’r opsiwn yn agored.
Dywedodd Tom, ‘Dywedais i nad oeddwn i eisiau mynd i’r brifysgol o gwbl ar y dechrau. Ond awgrymodd hi y dylwn wneud cais beth bynnag, a gweld beth y gallai ddigwydd.’
Gwnaeth Tom gais ychydig cyn dyddiad cau UCAS, ac yn ddiweddarach cafodd wahoddiad i ymweld â Phrifysgol Swydd Gaerloyw.
Newid meddwl
Ar ôl ymweld â’r brifysgol a gweld y cwrs a’r cyfleusterau, newidiodd persbectif Tom ar bethau.
Dywedodd Tom, ‘Pan es i, roeddwn i wrth fy modd yno. Roedd y cwrs yn edrych yn wych ac roeddwn i’n meddwl bod hyn yn rhywbeth y gallwn i wir gweld fy hun yn ei wneud.’
Aeth ymlaen i dderbyn lle, ac y mae bellach yn ei ail flwyddyn yn astudio newyddiaduraeth chwaraeon.
Cysylltu astudiaeth â phrofiad go iawn
Ochr yn ochr â’i astudiaethau, mae Tom wedi dechrau ennill profiad trwy interniaethau. Yn ddiweddar, cafodd leoliad gyda’r cyfryngau rhanbarthol, yn ymdrin â rygbi proffesiynol yn Swydd Gaerloyw.
Dywedodd, ‘Mae wedi bod yn dda iawn i fy hyder i. Mae’r cwrs a’r profiadau rydw i wedi eu cael wedi fy helpu’n fawr.
‘Byddwn i wrth fy modd yn mynd i America a gohebu ar bêl fas ryw ddydd. Dyna fu fy mhrif nod erioed, ond byddwn i’n hapus yn gweithio ym maes newyddiaduraeth chwaraeon mewn unrhyw ffordd.’
Cyngor i bobl ifanc eraill
Mae Tom yn annog pobl ifanc eraill sy’n teimlo’n ansicr am eu dyfodol i geisio cymorth.
Dywedodd Tom, ‘Siaradwch â chynghorydd gyrfa. Dyna un o’r pethau gorau i mi wneud erioed.’
Ychwanegodd: ‘Nid yw canlyniadau gwael yn golygu popeth. Gall llawer o bethau ddod i’w lle wedi’r cyfan.’
Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd â chynghorydd gyrfa cysylltwch â ni heddiw.
Mynnwch gefnogaeth i archwilio'ch opsiynau.
Archwiliwch
Beth bynnag yw'ch cam nesaf – mynd i'r coleg, prifysgol, cael swydd, dechrau prentisiaeth neu redeg eich busnes eich hun – rydyn ni yma i'ch helpu i ddewis y llwybr sy'n iawn i chi.
Dysgwch am fynd i'r brifysgol, gan gynnwys proses ac amserlen Ymgeisio UCAS. Mae hefyd yn cynnwys astudio dramor.
Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.