Gyda chymorth gan Gyrfa Cymru, enillodd Erin yr hyder i gynllunio ei dyfodol ar ei thelerau ei hun.
Gwneud penderfyniadau
Ar ddechrau Blwyddyn 11, roedd Erin yn teimlo dan bwysau i gynllunio ei dyfodol. Roedd hyn tra roedd hi’n delio â heriau iechyd difrifol.
“Roedd y flwyddyn ddiwethaf yn brysur i mi,” meddai Erin. “Es i drwy sawl ymchwiliad ysbyty a meddygol. Yna ar ddechrau Blwyddyn 11, roeddwn i’n teimlo fel pe bai gen i ryw fath o amserydd.
“Doedd gen i ddim syniad beth i’w wneud. Roeddwn i’n teimlo fel petai pwysau arna i fynd i’r coleg. Ond roeddwn i eisiau iddo fod yn benderfyniad i mi, ar fy nhelerau fy hun.”
Sgwrs a oedd yn canolbwyntio arni hi
Roedd cyfarfod cyntaf Erin gyda’i chynghorydd gyrfa, Debbie, yn teimlo’n wahanol i’r sgyrsiau a gafodd o’r blaen.
“Roedd hi’n hawdd iawn siarad â hi,” meddai Erin. “Dywedodd ei bod hi wedi gweld llawer o fyfyrwyr fel fi.”
Anogwyd Erin i siarad am ei diddordebau, fel celf a Saesneg. Rhoddodd y sesiynau gyrfaoedd gyda Debbie le i Erin arafu pethau a siarad yn onest, heb farnu.
Gydag amser, ymchwil a sgyrsiau dilynol, dechreuodd Erin deimlo’n fwy hyderus am ei hopsiynau. Teimlai hefyd yn dawel ei meddwl nad oedd angen iddi benderfynu popeth ar unwaith.
Cymorth pwrpasol
Mae Erin yn fyddar ac yn falch o bwy ydy hi. Mae’n egluro, “Mae bod yn fyddar y norm i mi”. “Dydy pobl ddim bob amser yn sylwi fy mod i’n fyddar oherwydd rwy’n siarad yn dda a dyw fy mewnblaniadau i ddim yn amlwg.”
Ond mae hi hefyd yn onest am yr heriau. “Rwy’n dal yn fyddar. "Rwy’n dal yn anabl,” meddai hi. “Rwy’n colli sgyrsiau, yn enwedig mewn grwpiau. Weithiau rwy’n cael fy ngadael allan heb i bobl sylweddoli.”
Gweithiodd Debbie ochr yn ochr â’i hysgol, ei theulu a’i thimau anghenion dysgu ychwanegol i helpu i gynllunio ei chamau nesaf yn iawn. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod colegau’n deall ei hanghenion cyfathrebu a chymorth.
Cynllunio dyfodol y mae hi’n credu ynddo
Ym Mlwyddyn 10, rhoddodd Erin gyflwyniad yn Saesneg am fyddardod, gan rannu ei phrofiadau a’i hymchwil ei hun. Helpodd y cyflwyniad hwnnw i lunio ei huchelgais i gynorthwyo pobl ifanc eraill sy’n fyddar. “Rydw i am fod yn rhyw fath o therapydd byddar, rhywun sy’n deall ac yn helpu pobl ifanc i fagu hyder.”
Dysgodd Erin gan Debbie y gallai lefelau A cymdeithaseg ac iechyd a gofal cymdeithasol fod yn gam cryf tuag at y nod hwnnw.
“Gallwch chi ddychmygu fy llawenydd pan sylweddolais i eu bod nhw’n gam perffaith,” meddai hi. “Awgrymodd Debbie nhw fel opsiynau. Yna fe wnes i fy ymchwil fy hun gyda fy mam ac ymweld â’r coleg.”
Mae Erin bellach wedi gwneud cais am Lefel A cymdeithaseg, iechyd a gofal cymdeithasol, a chelf gain ac mae’n teimlo’n hyderus ynglŷn â’r hyn sy’n dod nesaf.
“Cyn hyn, roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n gwneud unrhyw beth a gorffen heb ddim i’w wneud â fy mywyd. Roedd yn ddiflas. Helpodd Debbie fi i sylweddoli nad oedd yn rhaid i mi wneud un penderfyniad sy’n pennu popeth. Nawr rwy’n teimlo’n gyffrous am yr hyn sydd nesaf.”
“Dydw i ddim yn gadael i fy myddardod fy nal yn ôl,” ychwanegodd. “Ac rydw i eisiau i bobl ifanc byddar eraill wybod nad oes rhaid iddo eu dal nhw’n ôl chwaith.
Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.
Archwilio
Beth bynnag yw'ch cam nesaf – mynd i'r coleg, prifysgol, cael swydd, dechrau prentisiaeth neu redeg eich busnes eich hun – rydyn ni yma i'ch helpu i ddewis y llwybr sy'n iawn i chi.
Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.
Archwilio eich opsiynau gyrfa a chael syniadau gyrfa.