Cymorth gyrfa yn helpu Aria i gymryd ei chamau nesaf yn ystod cyfnod anodd.
Ar ôl gadael perthynas hirdymor a’i swydd yn Sir Benfro, roedd yn drobwynt ym mywyd Aria.
Ar yr un pryd, roedd Aria yn ymdopi â heriau personol sylweddol. Mae hi’n drawsryweddol ac yn ddiweddar roedd hi wedi dechrau byw’n fwy agored fel hi ei hun.
Dywedodd Aria, “Roedd hyn i gyd o fewn cyfnod o dri mis. Ac roedd yn rhaid i mi ddelio â marwolaeth fy ffrind gorau hefyd. Roedd hi’n eithaf cynnar yn fy mhroses drawsnewid ar yr adeg hon hefyd.”
Ochr yn ochr â hyn, roedd gan Aria broblemau iechyd heb eu diagnosio, gan gynnwys clefyd seliag, a oedd yn gwneud bywyd bob dydd a chyllidebu yn anodd.
Eglurodd, “Roedd y ffaith nad oedd gen i arian yn gwneud i mi deimlo’n isel fy ysbryd. Roeddwn i’n teimlo’n wael yn dibynnu ar fy rhieni. Roeddwn i’n gwybod bod angen i mi gymryd cyfrifoldeb am fy mywyd fy hun."
Dod o hyd i gefnogaeth
Roedd Aria wedi bod yn dysgu ei hun i godio ac wedi datblygu diddordeb mewn ffiseg a chyfrifiadura, ond heb incwm sefydlog, roedd angen cynllun cliriach arni ar gyfer ei dyfodol.
Cafodd ei chyfeirio at Cymru’n Gweithio gan ei hanogwr gwaith Credyd Cynhwysol a dechreuodd gyfarfod â Claire ei chynghorydd gyrfa.
Yn ystod eu sesiynau, adolygodd Claire gymwysterau Aria ac eglurodd ei dewisiadau. Sylweddolodd Aria fod ei hastudiaethau TG blaenorol yn golygu y gallai wneud cais am radd.
Dywedodd, "Pan oeddwn i’n iau, roeddwn i bob amser yn dweud nad oeddwn i eisiau parhau â’m haddysg. Doeddwn i ddim yn meddwl bod angen i mi.
"Ond pan ddywedodd Claire wrtha i fod fy ngraddau’n ddigon da i fynd i’r brifysgol, daeth pethau’n glir.”
“Yn sydyn, gwelais y brifysgol fel cyfle i ddechrau byw’n rhydd a gweithio ar rywbeth roeddwn i wir eisiau ei wneud.”
Anogodd Claire hi i archwilio’r cyfle ymhellach.
Cyfeiriad newydd
O fewn ychydig fisoedd, roedd Aria wedi gwneud cais a sicrhau lle ar gwrs gradd cyfrifiadureg yn Abertawe.
Dywedodd, "Rwy’n falch iawn fy mod i wedi dewis gwneud y flwyddyn sylfaen. Mae wedi rhoi’r cyfle a’r amser sydd eu hangen arnaf i ymgartrefu ac addasu.
“Rwy’n delio â chyflyrau iechyd heb eu diagnosio, perthynas yn dod i ben, marwolaeth fy ffrind gorau. Mae wedi rhoi’r amser sydd ei angen arnaf i i wneud fy ngorau glas.”
Mae Aria bellach yn teimlo’n optimistaidd am ei dyfodol, "Rwy’n teimlo’n gyflawn. Yn wirioneddol. Rwy’n teimlo bod gen i bwrpas yn fy mywyd nawr."
Edrych tua’r dyfodol
Mae gan Aria gynlluniau uchelgeisiol. Mae hi’n gobeithio parhau â’i hastudiaethau ar ôl ei gradd baglor. Hoffai weithio ar lefel broffesiynol o fewn cyfrifiadura ac ymchwil.
Dywedodd, "Heb os, rhoddodd y gefnogaeth y cyfeiriad a’r hwb oedd ei angen arnaf.
"Dangosodd Claire fy opsiynau i mi a gadael i mi fynd amdani. Fe wnaeth hi fy annog i’r cyfeiriad cywir. Fyddwn i ddim wedi gwneud hynny hebddi hi."
Os hoffech archwilio eich diddordebau a'ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.
Archwilio
Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.
Chwiliwch am gyrsiau a dysgu sy'n addas i chi. Dewch o hyd i'r ystod o opsiynau dysgu sydd ar gael.
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni