Darganfu Cameron fod ffordd wahanol o ddysgu ar gael iddo, ac ar ôl gwthio ei hun y tu hwnt i’r hyn roedd ef yn arfer ei wneud, mae’n edrych ymlaen yn awr at ei ddyfodol.
Dechrau hyfforddeiaeth
Llwyddodd Cameron, o Aberdaugleddau, i gael lleoliad gwaith gyda mewnforwyr cenedlaethol offer pŵer Hyundai, Genpower, ar ôl gorffen ei gwrs mecaneg yn y coleg a chychwyn ar hyfforddeiaeth.
Chwe mis ar ôl dechrau ei leoliad, dywedodd Cameron: “Rydw i wir yn mwynhau fy hun hyd yma. Rydw i ar leoliad bedwar diwrnod yr wythnos yn gweithio yn yr awyr agored ac yn helpu i baratoi archebion i fynd allan o Ddoc Penfro.
“I mi, mae’r holl brofiad wedi bod yn gwbl wahanol i’r coleg. Mae wedi bod yn heriol ond hefyd yn gadarnhaol, ac mae wedi rhoi hwb mawr i fy hyder.”
Newid amgylcheddau dysgu
Ar ôl astudio mecaneg yn y coleg am chwe wythnos i ddechrau, canfu Cameron (17), a gafodd ddiagnosis o orbryder tua thair blynedd yn ôl, nad oedd yn mwynhau ei amser yn y coleg, ac roedd yn bwriadu gadael ei gwrs heb gynlluniau o gwbl o ran yr hyn roedd am ei wneud yn lle hynny.
Eglurodd: “Roedd yr holl brofiad o fynd i'r coleg yn fy llethu. Roedd y dosbarthiadau’n rhy brysur gyda gormod o bobl a gormod yn digwydd, a oedd yn gwneud fy ngorbryder yn llawer gwaeth.
“Doedd gen i ddim syniad bod dewisiadau eraill ar gael i mi, felly roeddwn i’n meddwl mai’r unig beth i mi ei wneud oedd gadael y coleg gan nad oeddwn i’n ei fwynhau. Wrth edrych yn ôl ar sut roeddwn i’n teimlo bryd hynny o’i gymharu â lle rydw i heddiw, rydw i mewn lle llawer mwy cadarnhaol.”
Ar ôl gwneud rhywfaint o ymchwil, darganfu Cameron a’i fam ddarparwr hyfforddiant lleol yn Sir Benfro, a dechreuodd Cameron hyfforddeiaeth ychydig cyn i bandemig COVID-19 ddechrau yn 2020.
Wynebu’r heriau
Dywedodd Cameron: “Pan ddechreuais i’r hyfforddeiaeth, roeddwn i'n gweld yn syth ei fod yn brofiad cwbl wahanol i fy nghyfnod yn y coleg. Roedd pethau’n llawer tawelach i ddechrau, a dyna’n union oedd ei angen arnaf. Cefais gymorth un i un, gyda llawer o help ar gyfer fy ngorbryder yn ogystal â chymorth gyda phethau fel ysgrifennu CVs a llythyrau eglurhaol, yn ogystal â dysgu pethau gwahanol i helpu gyda chyfweliadau swydd.”
Fodd bynnag, pan ddechreuodd y cyfyngiadau symud, dechreuodd profiad Cameron gymryd tro am y gwaethaf, a daeth yn fwyfwy encilgar. Roedd yn ei chael yn anodd canolbwyntio, gyda llawer o ddysgu gartref ar y cyfrifiadur.
“Roedd fy ngorbryder i yno o’r blaen, ond fe wnaeth y pandemig ei waethygu, yn sicr. Roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi wthio fy hun i roi cynnig arni, felly dechreuais feddwl am strategaethau ymdopi gwahanol a cheisio eu goresgyn. Dechreuais fynd allan mwy ar fy mhen fy hun, a mynd i mewn i siopau ar fy mhen fy hun, sy’n rhywbeth na fyddwn i’n ei wneud fel arfer.”
Troi pethau er gwell
Gyda chymorth y darparwr hyfforddiant ynghyd â’i ymdrechion ei hun a chymorth gan ei fam gartref, gwellodd presenoldeb Cameron yn sylweddol, gan arwain at gofnod presenoldeb o 100%. Yn ogystal, dechreuodd groesawu dysgwyr eraill i’w grŵp a’u helpu i ymgartrefu.
Pan gododd cyfle, rhoddodd Cameron gynnig ar gyfweliad lleoliad grŵp gyda Genpower o Ddoc Penfro.
Dywedodd Cameron: “Roeddwn i’n poeni braidd am fod yn wahanol i’r tri arall a oedd yn y cyfweliad ar gyfer lleoliad gyda mi, ond pan ddaeth y cyfweliad cefais fy synnu pa mor hyderus roeddwn i’n teimlo. Roeddwn i’n gallu rhoi popeth roeddwn i wedi ei ddysgu ar waith, ac roedd yr awgrymiadau a’r cyngor a gefais drwy’r hyfforddeiaeth yn fuddiol dros ben. Pan gefais gynnig y lleoliad gydag un o’r lleill oedd yn y cyfweliad, doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth, ond roeddwn i’n falch iawn ohonof fy hun!”
Edrych ymlaen
“Pan fydd fy lleoliad yn dod i ben, rwy’n gobeithio cael fy nghymhwyster lefel 2 ac yna byddaf yn chwilio am swydd barhaol.
“Drwy gydol y broses hon, rydw i wedi dysgu nad yw rhai ffyrdd o ddysgu yn addas i chi o bosibl, ond nid yw hynny’n golygu na fydd ffordd arall yn iawn.
Nid oes yn rhaid i chi roi'r gorau iddi, oherwydd mae dewis arall ar gael bob amser. Pe bai unrhyw un arall yn fy sefyllfa i, byddwn yn eu hannog i wneud eu hymchwil a gweld beth arall sydd ar gael iddynt, oherwydd mae gwneud hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr a chadarnhaol i mi.”
Archwilio
Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith
Mynnwch gefnogaeth i archwilio'ch opsiynau.