Mae’r datganiad hygyrchedd yma’n ymwneud â cymrungweithio.llyw.cymru.
Mae gwefan Cymru’n Gweithio’n cael ei reoli gan Gyrfa Cymru. Rydyn ni eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:
- Llywio rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- Chwyddo’r testun hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
- Gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin
- Llywio rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
Er mwyn sicrhau bod hyn yn bosibl, rydyn ni’n ymgysylltu â chwmnïau hygyrchedd allanol i sicrhau bod y gofynion sylfaenol uchod yn cael eu bodloni.
Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor hawdd â phosibl i'w ddeall.
Mae cyngor ar AbilityNet (Saesneg yn unig) ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan
Nid yw rhai rhannau o wefan Cymru’n Gweithio yn gwbl hygyrch:
- Nid yw dolenni cymdeithasol yn cael eu hadnabod pan fydd y defnyddiwr yn ehangu'r ddolen i rannu'r dudalen hon
- Nid yw'r botwm Rhannu'r dudalen hon yn dangos a yw wedi'i ehangu neu wedi'i leihau
- Ni ddylai'r gwahanydd fod yn hygyrch i'r feddalwedd darllen sgrin pan yn defnyddio'r bysellau saeth
- Nid yw'r botymau ehangu popeth a chau popeth yn darllen fel rhai anactif pan fydd y botwm wedi'i analluogi
Mae Gyrfa Cymru yn defnyddio rhaglen trydydd parti o'r enw Livechat ar gyfer gwasanaethau gwe-sgwrs ar-lein. Mae sgwrsio byw yn cydymffurfio â safon WCAG 2.2 AA. Ewch i Livechat (Saesneg yn unig) am fwy o wybodaeth.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni drwy:
- E-bost post@gyrfacymru.llyw.cymru
- Ffôn 0800 028 4844
- Sgwrsio byw
- Drwy'r post: Rheolydd Cynnwys y We, Canolfan Gyrfa Caerdydd, Uned 4, Tŷ Churchill, 17 Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
Os na allwch ddefnyddio sgwrsio byw, ffoniwch ni ar 0800 028 4844 neu anfonwch ebost atom yn post@gyrfacymru.llyw.cymru.
Ymweld â ni yn bersonol
Mae gan Ganolfannau Gyrfa ddolenni sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn i chi alw draw, gallwn ni drefnu dehonglydd Iaith Arwyddo Prydain (BSL). Mae ein staff hefyd yn gweithio o amrywiaeth o leoliadau allgymorth. Bydd cyfleusterau'r lleoliadau hyn yn amrywio ac efallai na fydd dolenni sain yno.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd y wefan hon
Rydyn ni eisiau parhau i wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon, cysylltwch â:
Rheolydd Cynnwys y We, e-bost: gwybodaeth@gyrfacymru.llyw.cymru
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni ar gyfer Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018. Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) (Saesneg yn unig).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Gyrfa Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefannau yn hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 (Saesneg yn unig) oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Ddim yn cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:
- Nid yw'r botwm Rhannu'r dudalen hon yn nodi a yw wedi'i ehangu neu wedi'i leihau ac nid yw'r dolenni cyfryngau cymdeithasol yn cael eu hadnabod pan fydd y defnyddiwr yn ehangu'r ddolen rhannu'r dudalen hon
- Ni ddylai'r gwahanydd fod yn hygyrch i'r feddalwedd darllen sgrin pan yn defnyddio'r bysellau saeth
- Nid yw'r botymau ehangu popeth a chau popeth yn darllen fel rhai anactif pan fydd y botwm wedi'i analluogi
Mae gwaith datblygu ar y gweill i ddatrys y problemau uchod a dylai fod wedi'i gwblhau erbyn hydref 2025.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Fideo byw
Mae ffrydiau fideo byw wedi'u heithrio rhag cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd (Saesneg yn unig). Byddwn yn adolygu'r hyn sy'n bosibl ar gyfer pob llif byw ar sail y dechnoleg / meddalwedd a ddefnyddir.
Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd
Rydyn yn gweithio'n weithredol i ddatrys y problemau a nodwyd, ac mae'r rhan fwyaf yn cael eu datblygu neu i fod i ddechrau cael eu datblygu cyn bo hir. Ein nod yw datrys yr holl faterion uchod erbyn hydref 2025.
Rydyn ni’n gweithio gyda datblygwyr i sicrhau ein bod yn cydymffurfio'n llawn â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 10 Chwefror 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 25 Gorffennaf 2025.
Cafodd Cymru'n Gweithio asesiad safle llawn a gynhaliwyd gan Thornacre ym mis Chwefror 2025.
Roedd yr asesiad yn cwmpasu'r meysydd canlynol, gan gynnwys yr holl gydrannau ac elfennau:
- Tudalen gartref
- Yr hyn rydyn ni'n ei wneud
- Gallwn ni helpu
- Twf Swyddi Cymru Plws
- Twf Swyddi Cymru+ Dyrchafiad
- Stori Nina
- Cysylltu â ni
- Newid dy stori
- Ailgrewch eich gyrfa gyda Chyfrif Dysgu Personol
- Gwaith ym maes Lletygarwch a Thwristiaeth
- Straeon Go Iawn
- PDF Ynglŷn â Cymru’n Gweithio
Profi Methodoleg
Roedd ein hasesiad hygyrchedd diweddaraf yn cynnwys:
- Profion darllenydd sgrin gyda JAWS, NVDA, VoiceOver, a TalkBack
- Profion llywio â bysellfwrdd
- Dadansoddiad cyferbyniad uchel a chyferbyniad lliw
- Profion cydnawsedd y porwr chwyddo
- Profi ar draws dyfeisiau a phlatfformau lluosog