Cymorth gyrfa yn helpu Mollie i sicrhau rôl newydd.
Mae Mollie yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio ym maes cyfathrebu. Ar ôl ymadael â’i rôl amser llawn, roedd hi’n teimlo’n ansicr ynglŷn â’i chamau nesaf ac yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i gyfleoedd newydd.
Dywedodd, “Sylweddolais yn gyflym fod y farchnad swyddi wedi newid cryn dipyn. Roeddwn i’n ei chael hi’n heriol iawn, ac roeddwn i wedi colli llawer o’m hyder.”
Ochr yn ochr â hyn, roedd Mollie yn gweld cyfweliadau yn arbennig o anodd, gan wneud y broses hyd yn oed yn fwy heriol.
Cysylltu i ofyn am gymorth
Wrth chwilio am gyngor ar-lein, daeth Mollie o hyd i Gyrfa Cymru. Penderfynodd hi gysylltu.
Trefnodd apwyntiad gyda chynghorydd gyrfa Cymru’n Gweithio o’r enw Louise.
Dywedodd Mollie, “Meddyliais, pam lai? Doedd gen i ddim i’w golli drwy gysylltu. Roedd Louise yn wych. Fe helpodd hi fi ym mhob ffordd, mewn gwirionedd.”
Meithrin hyder a sgiliau
Yn y sesiwn gyntaf bu Mollie yn canolbwyntio ar adolygu ei CV, a’i addasu ar gyfer ceisiadau. Dros sawl sesiwn, bu Louise yn ei chynorthwyo hefyd gyda llythyrau eglurhaol, a’i helpu i baratoi ar gyfer cyfweliadau. Trefnodd ffug-gyfweliad hefyd.
Dywedodd Mollie, “Roedd yn teimlo fel cyfweliad go iawn, ac ar y dechrau roeddwn i’n nerfus. Ond wedyn, sylweddolais fy mod wedi gwneud yn dda iawn, ac fe wnaeth hynny roi hwb mawr i fy hyder.
“Helpodd Louise fi i feddwl am gyfweliadau fel cyfle i adrodd stori, a newidiodd hynny’n llwyr y ffordd roeddwn i’n mynd ati.”
Dod o hyd i’r cyfle iawn
Gyda chefnogaeth barhaus, fe helpodd Louise Mollie i ddod o hyd i swyddi addas a gwneud cais amdanynt. Daeth o hyd i gyfle a oedd yn cyfateb i brofiad Mollie, a’i hannog i wneud cais.
Dywedodd Mollie, “Fe helpodd fi i deilwra fy nghais a dangos pam fy mod i’n addas ar gyfer y rôl.”
Er na lwyddodd y cais cychwynnol hwn, cysylltwyd â Mollie eto yn ddiweddarach pan ddaeth cyfle tebyg ar gael.
Symud ymlaen
Mae Mollie bellach yn gweithio mewn rôl gyfathrebu i un o’r cyllidwyr cymunedol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae hi wir yn mwynhau’r rôl.
Dywedodd Mollie, “Rwy wrth fy modd. Rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus nawr. Fyddwn i ddim lle rydw i nawr heb y cymorth hwnnw.”
Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, mae Mollie yn annog eraill i beidio â rhoi’r gorau iddi.
“Fy nghyngor i unrhyw un mewn sefyllfa debyg fyddai peidio â rhoi’r ffidil yn y to. Mae chwilio am swydd y dyddiau hyn yn farathon, nid yn sbrint. Fe ddaw llwyddiant i chi pan fyddwch chi’n ei ddisgwyl leiaf.”
Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.
Archwilio
Angen help i newid eich gyrfa? Gall Cymru'n Gweithio eich helpu i ddarganfod y trywydd sy'n iawn i chi. Archebwch adolygiad gyrfa rhad ac am ddim.
Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.
Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.