Cafodd Molly ei hyder yn ôl a dod o hyd i’r swydd iawn iddi hi ym maes gofal iechyd.
Mae Molly yn byw yng Nghasnewydd. Mae hi’n nyrs gofrestredig, a bu’n gweithio ym maes gofal iechyd. Dros amser, sylwodd bod y gwaith wedi dechrau effeithio ar ei llesiant.
Dywedodd Molly, ‘Nid mater o ddim eisiau bod yn nyrs oedd hyn. Roedd fy hyder wedi cael cnoc, ac roeddwn i’n teimlo’n eithaf ansicr ynglŷn â beth i’w wneud nesaf.’
Dod o hyd i gymorth
Ar ôl siarad â ffrind agos, penderfynodd Molly chwilio am gyngor gyrfa. Trefnodd apwyntiad gyda Cymru’n Gweithio.
Dywedodd, ‘Roeddwn i’n chwilio am ychydig gymorth a rhywfaint o hyder eto, dim ond i ddechrau meddwl am ymgeisio am swyddi, hyd yn oed.’
Cyfarfu Molly â’r cynghorydd gyrfa, Ross, yng nghanolfan gyrfa Casnewydd. Cafodd gymorth ganddo i fyfyrio ar yr hyn yr oedd hi’n ei ddymuno o’i gyrfa, a’r hyn a oedd bwysicaf iddi hi.
Dywedodd, ‘Helpodd y sgyrsiau fi i weld beth oedd yn bwysig i mi. Sylweddolais fy mod i dal eisiau gweithio ym maes gofal iechyd. Mae bod yn nyrs yn fraint, ac nid oeddwn am i un profiad ddifetha fy ngyrfa.’
Cymryd camau
Gyda chymorth, adolygodd Molly ei CV, mireiniodd ei datganiadau personol, a dechreuodd ymgeisio am swyddi.
Cafodd hefyd gymorth i baratoi ar gyfer cyfweliadau gan yr anogwr cyflogadwyedd, John, a’i helpodd i ganolbwyntio ar gyflwyno ei phrofiadau proffesiynol yn glir.
Dywedodd Molly, ‘Fe helpodd fi i ddeall yn iawn am beth y mae cyflogwyr yn chwilio. Nid yn unig pwy ydw i fel unigolyn, ond fy mhrofiad proffesiynol a pham roeddwn i eisiau’r swydd.’
Canlyniad cadarnhaol
Gwnaeth gwaith caled Molly dalu ar ei ganfed pan gynigiwyd swydd nyrsio newydd iddi ar yr un diwrnod â’i chyfweliad ar gyfer y rôl.
Dywedodd, ‘Roeddwn i dal yn yr ystafell gyf-weld pan gynigion nhw’r swydd i mi. Roeddwn i wrth fy modd.’
Symud ymlaen
Mae Molly bellach yn teimlo’n bositif ac yn obeithiol ynglŷn â’i dyfodol. Mae’n edrych ymlaen at setlo yn ei rôl newydd a pharhau i ddatblygu yn ei gyrfa nyrsio.
Dywedodd, ‘Mae’n teimlo fel fy mod i’n dod adref, mewn gwirionedd. Rydw i’n llawn cyffro eto ynglŷn â ble y gall fy ngyrfa fynd.’
Mae ganddi nodau tymor hwy hefyd, yn cynnwys cyfuno gwaith clinigol ag ymchwil yn y dyfodol.
Dywedodd Molly, ‘Rwyf wrth fy modd cael bod yn brysur eto. Fy nod hirdymor yw rôl academaidd glinigol, ond am y tro rwy’n canolbwyntio ar fod y nyrs adran achosion brys orau y gallaf fod.’
Cyngor i bobl eraill
Wrth fyfyrio ar ei thaith, mae Molly yn annog eraill sy’n teimlo’n ansicr neu’n anhapus yn y gweithle i geisio cymorth.
Dywedodd, ‘Torrwch bethau i lawr yn gamau bach. Byddwch yn chwilfrydig, a cheisiwch gyngor gan rywun a all eich arwain chi.
‘Roedd Ross a John o Cymru’n Gweithio ill dau yn anhygoel mewn gwahanol ffyrdd. Roedden nhw’n credu ynof i, ac yn fy nghefnogi pan oeddwn i wir angen hynny.’
Ychwanegodd, ‘Nid dim ond teimlad yw hyder. Mae’n ymwneud â gwneud y peth, hyd yn oed pan fyddwch chi’n teimlo’n orbryderus.’
Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd â chynghorydd gyrfa cysylltwch â ni heddiw.
Archwilio
Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.
Angen help i newid eich gyrfa? Gall Cymru'n Gweithio eich helpu i ddarganfod y trywydd sy'n iawn i chi. Archebwch adolygiad gyrfa rhad ac am ddim.