Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Canfod Cymorth

Dau berson yn edrych ar gyfrifiadur ac yn trafod

Gall Cymru’n Gweithio eich helpu i fod yn barod am waith. Gall Cymru’n Gweithio eich helpu unrhyw gam o’r ffordd. 

Efallai bod angen i chi fagu hyder.  Efallai yr hoffech gael mwy o sgiliau.  Gallwn eich helpu i fod yn barod am waith drwy ein dull Canfod Cymorth, sef holiadur byr sy’n eich helpu i ganfod y cymorth y gallwch fod yn gymwys ar ei gyfer ledled Cymru.

Gallwch chwilio am raglenni cyfagos a all eich helpu i wella eich sgiliau a’ch cyfleoedd gwaith.  Gallwch ei gwblhau mewn pum munud ac nid oes rhaid mewngofnodi i chwilio.  Rhowch rywfaint o wybodaeth sylfaenol amdanoch chi gan gynnwys eich oedran, lle rydych yn byw a’ch cymwysterau, a byddwn yn darparu rhestr o raglenni addas ar eich cyfer. (Ni chedwir eich atebion ar ôl i chi gwblhau’r dull Canfod Cymorth a chau’r porwr).

Chwiliwch heddiw i ddechrau newid dy stori.

Canfod Cymorth

Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith