Os ydych chi rhwng 16 a 24 oed a ddim yn siŵr o’ch camau nesaf, dych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae digon o gefnogaeth ar gael ac mae gennych lawer o opsiynau.
P'un ai ydych chi eisiau parhau mewn addysg yn y chweched dosbarth, coleg neu brifysgol, neu gael swydd, dechrau prentisiaeth, neu sefydlu eich busnes eich hun, rydyn ni yma i'ch helpu chi i ddod o hyd i'r llwybr sy'n iawn i chi.
Gallwn eich helpu i:
- Ddewis y cwrs neu hyfforddiant cywir
- Dod o hyd i brentisiaeth
- Chwilio am swyddi a pharatoi ceisiadau cryf
- Dechrau eich busnes eich hun
Cysylltwch â ni
Ddim yn siŵr lle i ddechrau? Trefnwch apwyntiad am ddim gydag un o'n cynghorwyr gyrfa neu cysylltwch â ni dros y ffôn, galwad fideo, neu yn bersonol.
Mynnwch y gefnogaeth i archwilio eich opsiynau.
Eich opsiynau
P'un ai ydych chi'n gwybod yn union beth rydych chi am wneud neu'n dal i feddwl, mae yna lawer o lwybrau i'w hystyried.
Does dim llwybr cywir nac anghywir - y peth pwysicaf yw dod o hyd i'r llwybr sy'n iawn i chi. Cymerwch olwg ar yr hyn sydd ar gael a chofiwch fod ein cyngoryddion wrth law i helpu.
Gallwn eich helpu i archwilio eich opsiynau a darganfod pa gymorth ariannol sydd ar gael, gan gynnwys y Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru.
Mae dewis y cwrs a'r brifysgol gywir yn benderfyniad mawr. Gallwn eich helpu i ystyried eich opsiynau, deall eich cyllid, a llywio'r broses Clirio os oes angen.
Mae prentisiaeth yn caniatáu i chi ennill wrth i chi ddysgu. P'un ai ydych chi'n dechrau neu'n meddwl am newid gyrfa, gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r cyfle cywir.
Gallwn eich helpu i ddod o hyd i swyddi gwag, cofrestru i'n bwletin swyddi, a pharatoi eich CV, ceisiadau a sgiliau cyfweliad.
Os ydych chi'n 25 oed neu'n iau ac yn meddwl am ddechrau eich busnes eich hun, mae Syniadau Mawr Cymru yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad am ddim i'ch helpu i ddechrau.
Mynediad at hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd swyddi â thâl sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i adeiladu eich dyfodol ar eich telerau chi.
Os ydych chi'n byw mewn tlodi neu mewn perygl o dlodi ac nad ydych chi'n gymwys ar gyfer rhaglenni cyflogaeth eraill, mae Cymunedau am Waith a Mwy yn cynnig cefnogaeth arbenigol un-i-un i'ch helpu i gael gwaith.
Os ydych chi wedi colli eich swydd yn ddiweddar, gall ReAct+ helpu i dalu costau ailhyfforddi. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer cyrsiau a threuliau cysylltiedig i'ch helpu chi yn ôl i'r gwaith.
Chwiliwch am raglenni a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith trwy ddefnyddio ein teclyn Canfod Cymorth.
Cymorth ychwanegol
Cyllid ar gael yng Nghymru ar gyfer cyrsiau hyfforddi, colegau a phrifysgolion.
Dysgwch am gymorth i'ch helpu i gael gwaith os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd.
Mae Fy Nyfodol yn cynnwys gwybodaeth gyrfaoedd hawdd ei darllen. Dysgwch am eich opsiynau, archwiliwch syniadau gyrfa a dewch i wybod pwy all eich helpu.
Yn teimlo wedi'ch llethu?
Mae'n hollol normal teimlo dan straen neu'n ansicr am y dyfodol. Os yw pethau'n teimlo'n anodd ar hyn o bryd, does dim rhaid i chi ddelio â hyn ar eich pen eich hun. Edrychwch ar (mae rhai o'r dolenni isod yn Saesneg yn unig):
- Mae Young Minds(external website) yn cynnig cymorth iechyd meddwl am ddim i bobl ifanc
- Mae Silver Cloud GIG Cymru yn wasanaeth hunangymorth am ddim i bobl 16 oed neu’n hŷn, gydag offer a chymorth personol. Neu ffoniwch GIG Cymru ar 111 a phwyswch opsiwn 2
- Mae Meic Cymru yn llinell gymorth gyfrinachol i bobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Cysylltwch â nhw dros y ffôn, WhatsApp, sgwrs ar-lein, neu neges destun
- Mae Mind Cymru, Hopeline247 (Papyrus) a Samariaid Cymru yn cynnig cymorth iechyd meddwl a chymorth mewn argyfwng ychwanegol
Gallwch hefyd gysylltu â ni'n uniongyrchol am sgwrs ar-lein sgwrsio ar-lein neu drwy ymweld â'ch swyddfa agosaf.
Sut alla i helpu fel rhiant neu warcheidwad?
Gall helpu person ifanc i benderfynu beth i'w wneud nesaf deimlo yr un mor frawychus i chi ag iddyn nhw. Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi hefyd.
Gall deall yr opsiynau sydd ar gael - boed hynny'n goleg, prifysgol, prentisiaeth, neu waith - eich helpu i gael sgyrsiau mwy gwybodus gyda'ch plentyn a theimlo'n hyderus wrth gefnogi eu penderfyniadau.
Mae gennym wybodaeth ac offer yn ein hadran Rhieni i'ch helpu i ddeall eu dewisiadau, eu helpu nhw i wneud penderfyniadau a rhoi sicrwydd.
Mae croeso i chi ddod gyda nhw i’w hapwyntiad cynghorydd gyrfa, neu gysylltu â ni yn uniongyrchol i drafod pethau.
Straeon go iawn
Cyfle i glywed gan bobl ifanc rydyn ni wedi'u cefnogi i fyd addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a hunangyflogaeth.