Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Cysylltu â ni

Dynes yn gyrru neges testun ar ei ffôn symudol

Cysylltwch â ni. Trefnwch apwyntiad, ffoniwch, sgwrsio gyda ni ar-lein, e-bostiwch neu dewch o hyd i'ch canolfan yrfaoedd agosaf.

Sgwrs ar-lein

Siaradwch â ni sgwrsio ar-lein. Fe welwch yr opsiwn 'sgwrsio nawr' ar bob tudalen o'n gwefan.

Rydym ar gael o ddydd Llun i ddydd Iau: 9am i 5pm, dydd Gwener: 9am i 4:30pm.

Os nad yw sgwrs ar-lein yn dangos

Os nad yw'r blwch sgwrs ar-lein yn ymddangos ar y wefan, efallai y bydd angen i chi ddiffodd y cwci sgwrs ar-lein.

I wneud hyn:

  1. Ewch i'r dudalen cwcis
  2. Galluogwch gwcis y gwasanaeth sgwrsio ar y we
  3. Cadwch eich newidiadau

Yna gallwch gysylltu â ni drwy sgwrs ar-lein.

Show more

Trefnu apwyntiad

Trefnwch apwyntiad gyda chynghorydd gyrfa neu anogydd cyflogadwyedd.

Byddwch yn gallu trefnu apwyntiad hyd at 2 wythnos ymlaen llaw.

E-bost

E-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru neu llenwch y ffurflen cysylltu â ni a byddwn yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith drwy e-bost.

Ein canolfannau

Dewch o hyd i'n Canolfannau Gyrfa ledled Cymru.

Rydym hefyd yn cynnig cyngor ac arweiniad gyrfaoedd wyneb yn wyneb mewn lleoliadau ledled Cymru. Dewch o hyd i'ch lleoliad cymunedol agosaf.

Ffôn

Ffoniwch ni am ddim ar 0800 028 4844.

Cwblhewch ein ffurflen galwad yn ôl os byddai'n well gennych i ni eich ffonio. Gallwch ddewis slot amser a bydd anogydd cyflogadwyedd yn eich ffonio chi.

Mae ein llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau: 9am i 5pm a dydd Gwener: 9am i 4:30pm.

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch chi'n ein ffonio

Pan fyddwch chi'n ein ffonio byddwch yn derbyn 2 opsiwn.

1. Ar gyfer cymorth gyrfaoedd neu apwyntiadau

Pwyswch opsiwn 1 pan ofynnir i siarad â'n hanogwyr cyflogadwyedd. Byddwn yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael y gefnogaeth gywir. Gallwn eich helpu gyda:

  • Chwilio am swyddi
  • Adolygu eich CV
  • Technegau cyfweld
  • Dod o hyd i gyrsiau

2. I newid apwyntiadau ac ymholiadau cyffredinol

Pwyswch opsiwn 2 pan ofynnir i newid apwyntiad, neu ar gyfer ymholiadau cyffredinol nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â gyrfaoedd. Gallwn eich helpu gyda:

  • Newid neu ganslo apwyntiad sy'n bodoli eisoes
  • Ateb unrhyw gwestiynau cyffredinol sydd gennych am ein gwasanaethau a'n swyddfeydd

Prif awgrym. Gwnewch yn siŵr bod gennych feiro a phapur yn barod i ysgrifennu unrhyw wybodaeth ddefnyddiol

Show more

Iaith Arwyddion Prydain

Mewn partneriaeth â SignVideo, mae Gyrfa Cymru yn falch o fod yn hygyrch i'r gymuned fyddar a BSL.

Iaith Arwyddion Prydain - SignVideo

Sut i ddefnyddio SignVideo i gysylltu â ni am drafodaeth gychwynnol.

Gweld trawsgrifiad SignVideo (Word, 25KB, bydd y ddogfen hon yn lawr lwytho i'ch dyfais).