Ar ôl wynebu cael ei ddiswyddo yn sydyn, sefydlodd Stephen ei fusnes llwyddiannus ei hun.
Roedd Stephen, 50 oed, wedi gweithio yn gwasanaethu offer tirfesur ers blynyddoedd lawer. Un diwrnod, dywedwyd wrtho fod ei ddepo yn cau.
Dywedodd: “Roedd yn daranfollt llwyr. Dechreuais gynhyrfu. Meddyliais i, beth ydw i’n mynd i’w wneud?”
Mae’r math o offer arbenigol y mae Stephen yn gweithio gydag ef yn cael ei wasanaethu gan ychydig iawn o gwmnïau. Nid oedd unrhyw ganolfannau gwasanaethu tebyg yn lleol.
Ceisio cyngor
Chwiliodd Stephen ar-lein a daeth o hyd i Gyrfa Cymru. Yna fe drefnodd apwyntiad gyda chynghorydd gyrfa Cymru’n Gweithio o’r enw Catrin.
Roedd eisiau gwybod a allai ei sgiliau drosglwyddo i rôl arall. Ond roedd ganddo syniad arall mewn golwg hefyd.
Esboniodd Stephen: “Dywedais wrth Catrin y byddwn i wrth fy modd yn rhoi cynnig arni ar fy mhen fy hun. Does neb yn lleol yn gwneud yr hyn rwy’n ei wneud.”
Yn ystod eu sesiynau, dangosodd Stephen yr offer arbenigol y mae’n ei wasanaethu i Catrin ac eglurodd ei hyfforddiant gweithgynhyrchu. Awgrymodd Catrin iddo siarad â Busnes Cymru ynglŷn â dechrau ei gwmni ei hun. O’r pwynt hwnnw ymlaen, symudodd pethau’n gyflym.
Cymryd y cam nesaf
Gwnaeth Stephen gais am gyllid ReAct+ i gwblhau hyfforddiant gweithgynhyrchu wedi’i ddiweddaru ar offer newydd. Mae cyllid ReAct+ yn cefnogi unigolion yr effeithiwyd arnynt gan ddiswyddiadau i ennill sgiliau a chymwysterau newydd.
Helpodd Catrin gyda’r cais a siaradodd yn uniongyrchol â darparwr yr hyfforddiant.
Cafodd Stephen gyngor hefyd am dreth, cyfrifon, a sut i redeg busnes. Penderfynodd weithio gyda chyfrifydd er mwyn iddo allu canolbwyntio ar ei waith technegol.
Dywedodd: “Roedd yn frawychus i ddechrau. Dydw i erioed wedi gweithio i mi fy hun o’r blaen.”
Ychwanegodd: “Es i i mewn yn teimlo, ‘O Dduw, rydw i’n 50 oed ac heb waith,’ i fod yn gwbl frwdfrydig ac yn barod i fynd ati.”
Adeiladu busnes llwyddiannus
Sefydlodd Stephen ei gwmni, Cardiff Laser and Survey Solutions Limited.
Cysylltodd â chwsmeriaid blaenorol i roi gwybod iddyn nhw ei fod yn dechrau ar ei ben ei hun. Cafodd ymateb ar unwaith.
Mae’r busnes wedi tyfu’n gyflym yn ei fisoedd cyntaf ac mae’n ffynnu yn barod.
Dywedodd: “Mae wedi bod yn saith mis prysur iawn.”
Cyngor i eraill
Mae Stephen yn annog unrhyw un sy’n wynebu diswyddiad i geisio cefnogaeth: “Byddwn i’n dweud 100% ewch i gael sgwrs. Gall deimlo’n frawychus, ond mae’n werth ei wneud.”
Ychwanegodd: “Maen nhw’n eich rhoi ar ben ffordd ac yn gefn i chi. Dyna beth wnaethon nhw ar fy nghyfer i.”
Mae Stephen bellach yn rhedeg ei fusnes llwyddiannus ei hun ac yn edrych ymlaen tua’r dyfodol yn hyderus.
Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Stephen, gallwch drefnu adolygiad gyrfa am ddim i’ch helpu i newid gyrfa.
Archwilio
Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.
Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.
Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.
Gweld manteision ac anfanteision cychwyn busnes a ble i ddod o hyd i gefnogaeth i sefydlu busnes.