Magodd Nataliya fwy o hyder a chafodd gyfeiriad newydd drwy adolygiad gyrfa.
Mae Nataliya yn 40 oed ac yn byw yn Sir Benfro. Ar ôl gweithio ym myd addysg am saith mlynedd, penderfynodd ei bod hi’n amser am newid. Er ei bod wedi mwynhau ei rôl, roedd y swydd yn fwyfwy llawn straen.
Dywedodd, “Pan fyddwch chi’n colli’r awydd, rydych chi’n gwybod bod angen i rywbeth newid.”
Ar ôl gadael ei rôl, dechreuodd Nataliya chwilio am waith newydd ond roedd hi’n ansicr ynglŷn â’r hyn i’w wneud nesaf.
Wrth hawlio Credyd Cynhwysol, fe gynghorwyd Nataliya i gysylltu â Cymru’n Gweithio i gael cyngor gyrfaoedd.
Archwilio opsiynau
Cyfarfu Nataliya â’i chynghorydd gyrfa, Lara, yr wythnos ganlynol. Cymerodd Lara amser i ddeall sefyllfa Nataliya, gan gynnwys yr heriau yr oedd yn eu hwynebu yn y gwaith ac yn y cartref.
Yn ystod eu sesiynau, helpodd Lara Nataliya i ddiweddaru ei CV, gweithio ar lythyr eglurhaol ac archwilio gwahanol opsiynau gyrfa.
Dywedodd, “Roedd Lara yn gefnogol iawn. Bryd hynny, roedd fy hyder yn isel iawn.”
“Arweiniodd hi fi gam wrth gam. Wnaeth hi byth roi pwysau arna i. Fe wnaeth hi fy helpu i weld yr hyn a allai fod yn addas i mi a’r hyn na fyddai’n addas.”
Rhannodd Lara offer ac ymarferion byr i helpu Nataliya i ddeall ei chryfderau a’i diddordebau’n well. Cyfeiriodd Nataliya hefyd at gwrs TG am ddim i feithrin sgiliau ychwanegol.
Cymryd camau ymarferol
Dros sawl apwyntiad, bu Lara yn helpu Nataliya i lunio cynllun clir.
Dywedodd Nataliya, “Roedd Lara bob amser yn ysgrifennu’r cynllun ac yn ei anfon ataf ar ôl ein cyfarfod. Roedd y camau bach hynny’n werthfawr iawn. Rhoddon nhw arweiniad i mi pan oedd ei angen arnaf i fwyaf.”
Ar ôl peth amser allan o waith, fe ddechreuodd Nataliya wneud cais am rolau. Penderfynodd ddechrau rhywle newydd, hyd yn oed os oedd dros dro.
Rhannodd Nataliya, “Mae’n rhaid i chi adael y tŷ a rhoi cynnig arni. Os nad yw’n gweithio, nid yw’n gweithio. Ond mae’n rhaid i chi roi’r cyfle hwnnw i chi’ch hun."
Magu hyder drwy waith
Gwnaeth Nataliya gais am rôl cadw tŷ mewn gwesty lleol. Yn fuan ar ôl cyflwyno ei CV, cysylltwyd â hi a chynigiwyd cyfweliad iddi am swydd sy’n wynebu cwsmeriaid yn lle hynny.
Dywedodd, “Doeddwn i wir ddim yn ei ddisgwyl, ond aeth y cyfweliad yn dda iawn mewn gwirionedd.”
Cynigiwyd y rôl iddi a dechreuodd weithio yn y gwesty.
“Dyna pryd sylweddolais fy mod i’n dda yn gwneud mwy nag oeddwn i’n ei feddwl" ychwanegodd.
Yn barod am yr hyn sy’n dod nesaf
Roedd amgylchiadau personol yn golygu bod yn rhaid i Nataliya gamu i ffwrdd o’r rôl ar ôl ychydig wythnosau. Serch hynny, helpodd y profiad hi i gydnabod ei chryfderau a magu hyder eto.
Dywedodd Nataliya, “Fe roddodd ffydd ynof fi fy hun. Rydw i’n gallu gweld bellach y gallaf i wneud llawer o bethau.”
Ar hyn o bryd mae Nataliya yn helpu busnes ei theulu ac yn teimlo’n fwy parod ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol pan fydd yr amser yn iawn.
Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, mae hi’n annog eraill yn gryf i geisio cymorth gyrfa.
Dywedodd Nataliya, “Mae cael cyngor proffesiynol yn gwneud popeth yn gliriach. Mae canllawiau cam wrth gam yn helpu’n fawr.”
Ychwanegodd, “Roedd Lara yn credu ynof i. Weithiau gall cefnogaeth gan rywun y tu allan i’ch teulu fod hyd yn oed yn gryfach. Roedd wir yn gwneud imi deimlo fy mod i’n gallu gwneud pethau.”
Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Nataliya, gallwch drefnu adolygiad gyrfa am ddim i’ch helpu i newid gyrfa.
Archwilio
Angen help i newid eich gyrfa? Gall Cymru'n Gweithio eich helpu i ddarganfod y trywydd sy'n iawn i chi. Archebwch adolygiad gyrfa rhad ac am ddim.
Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.
Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.