Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Kath

Kath

Cymorth gyrfa yn rhoi hwb i hyder Kath gan ei harwain ar drywydd gyrfa greadigol newydd.

Ar ôl cael ei diswyddo o swydd a fu ganddi am bron i ddwy flynedd, cafodd Kath ei hun ar groesffordd. becyn cymorth ar ol colli swydd ac angen brys i ddod o hyd i waith, trodd at Cymru'n Gweithio am gymorth.

O golli swydd i gyfle gwych

Dywedodd Kath, “Es i draw, heb wybod beth i’w ddisgwyl, ac fe wnes i gyfarfod â Rachael, y cynghorydd gyrfa, ac roedd hi’n wych.”

Roedd hanes gyrfa Kath yn amrywiol—roedd hi wedi gweithio fel gwniadwraig, rheolwr dogfennau ym maes adeiladu, cynorthwyydd personol mewn coleg, a rheolwr swyddfa. Ond nid oedd yr un o'r rolau hyn wedi ei chyffroi'n mewn gwirionedd.

Eisteddodd i lawr gyda Rachael a dechreuodd fyfyrio ar yr hyn yr oedd hi wir ei eisiau.

“Wnes i edrych nôl ar fy ngyrfa dros y blynyddoedd a sylweddoli nad yw’n yrfa wnes i erioed ei dewis. Roedd yn rhywbeth yr oeddwn yn ei wneud ac allwn i ddim teimlo’n llawn cyffro amdano.”

Dod o hyd i'r cwrs cywir

Yn ystod ei sesiynau gyda Rachael, rhannodd Kath ei hangerdd dros gynllunio mewnol a steilio cartrefi - rhywbeth yr oedd hi wedi'i garu erioed ond heb ei ddilyn yn broffesiynol.

Anogodd Rachael hi i archwilio'r diddordeb hwn ymhellach, a chyda'i gilydd fe wnaethon nhw ymchwilio i gyrsiau. Yn y pen draw, daeth Kath o hyd i gwrs wythnos yn gwneud gorchuddion lampau yn Moji Designs, Brighton, a oedd yn llawer mwy manwl na'r dosbarthiadau nos arferol.

Eglurodd, “Cyn gynted ag y des i o hyd i’r cwrs, meddyliais, wel, dwi’n siŵr na fydda i’n gallu gwneud hyn, ond roedd Rachael mor bositif. A doeddwn i ddim yn teimlo'n dwp mwyach.”

Ar y cwrs, creodd Kath orchuddion lamp o ansawdd uchel dan arweiniad ei thiwtor, Moji. Yna dechreuodd osod y sylfeini ar gyfer busnes yn y dyfodol—sefydlu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, dylunio logo, a phrynu enw ar gyfer gwefan.

Adeiladu dyfodol newydd

Er bod Kath wedi derbyn gwaith llawnamser ers hynny, mae ei menter greadigol yn parhau i dyfu yn y cefndir. Mae hi wedi bod mewn cysylltiad â siopau lleol a lleoliadau crefftwyr i arddangos ei gwaith.

“Mae’r celfyddydau a gwaith crefft yn boblogaidd iawn lle rwy’n byw yn Y Fenni. Mae digon o leoedd bach a fyddai'n ddelfrydol i werthu fy ngwaith. Os gallaf gael fy nhroed yn y drws, gallaf weld fy musnes yn cychwyn, yn sicr.”

Mae Kath bellach yn gweld potensial gwirioneddol i'w busnes. Mae hi hyd yn oed wedi ysgrifennu cynllun busnes ac wedi pwyso a mesur y ffigurau. 

“Pan eisteddais i lawr a chreu cynllun busnes, dwi’n meddwl mai dyna pryd sylweddolais y gallai hyn fod yn yrfa llawnamser.”

Pŵer credu

Nid yw taith Kath wedi bod yn hollol ddidrafferth. Cafodd ddiagnosis o glefyd Ménière, sy'n achosi i rywun lewygu a chael pendro, a bu’n rhaid iddi roi’r gorau i'w char. Roedd gweithio o bell yn angenrheidiol, ac roedd yn anodd dod o hyd i rolau addas. Ond gwnaeth cefnogaeth Rachael wahaniaeth mawr.

“Gyda phopeth roeddwn i wedi bod yn mynd drwyddo, yn sydyn roeddwn i’n teimlo’n anghyflogadwy iawn ond rhoddodd Rachael yr hwb yr oedd ei angen arna i. Dwi ddim yn siŵr a ydy hi’n sylweddoli ei bod hi wedi rhoi hwb imi. Ond fe wnaeth, yn sicr. Fe ddes i drwy’r cyfan yn teimlo bod pwysau’r byd wedi codi oddi ar fy ysgwyddau.

“Gwnaeth wahaniaeth enfawr oherwydd bod Rachael yn bositif iawn. Dw i'n cofio dod adref a dweud fy mod i wir yn teimlo fel petai gen i rywun oedd yn credu ynof i.

I unrhyw un sy'n ystyried cysylltu â Cymru'n Gweithio, mae gan Kath un neges glir.

Ewch amdani, 100%. Gwnewch rywbeth rydych chi eisiau ei wneud, holwch gwestiynau, ac edrychwch i weld a yw'n bosibl. Nes i chi holi, dydych chi ddim yn gwybod beth sy’n bosibl.”

Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa cysylltwch â ni heddiw.

Archwilio

Cymorth ar ôl colli swydd

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.

ReAct Plws

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.
 

Chwilio am gyrsiau

Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni