Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Ciaran

Ciaran

Mae dod o hyd i’r llwybr cywir trwy brofiad wedi helpu Ciaran i fagu hyder.

Mae Ciaran, 19 oed, bellach yn gweithio fel porthor ysbyty yn Ysbyty Llandochau, lle nad oes dau ddiwrnod byth yr un fath. Ond ar ôl gorffen yr ysgol, nid oedd yn hollol siŵr beth fyddai ei ddyfodol.

Cymorth gan yr ysgol

“Ar y dechrau roeddwn i’n nerfus, ond wnes i gymryd pethau fel o’n nhw’n dod a mynd gyda’r llif,” meddai Ciaran.

Fel llawer o bobl ifanc, nid oedd Ciaran wedi cynllunio popeth ar unwaith.

“Pan gadewais yr ysgol, doeddwn i ddim yn hollol siŵr beth roeddwn i eisiau ei wneud, felly roeddwn yn agored i wahanol gyfleoedd ac i roi cynnig ar bethau. Helpodd hynny fi i fagu hyder, a dangosodd i mi fod yna lawer o lwybrau gwahanol y gallwch chi eu cymryd.”

Gyda chymorth ei gynghorydd Gyrfa Cymru yn yr ysgol, cafodd Ciaran brofiad gwaith gwerthfawr mewn amgylchedd gwaith go iawn. Cwblhaodd dri lleoliad 10 wythnos gwahanol yn Ysbyty Mynydd Bychan, Caerdydd. Yno y darganfu ei fwynhad o waith fel porthor.

“Helpodd fy nghynghorydd gyrfa fi i gael lle ar Brosiect SEARCH. O’r fan honno cefais wahanol leoliadau a roddodd brofiad a hyder i mi.”

Ennill profiad

Cyn dechrau ei rôl yn yr ysbyty, edrychodd Ciaran ar gyfleoedd eraill hefyd. Roedd hyn yn cynnwys gweithio mewn caffi ac ennill profiad ymarferol mewn gwahanol leoliadau. Gwnaeth y profiadau hyn ei helpu i ddatblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy ac i ddeall ei gryfderau a’i ddiddordebau’n well.

“Gwnaeth rhoi cynnig ar wahanol brofiadau fy helpu i i fagu fy hyder a dod i arfer â gweithio. Gwnaeth hynny wahaniaeth mawr.”

Dechrau gweithio

Gan weithio yn y GIG bellach, mae Ciaran yn chwarae rhan bwysig yn cynorthwyo cleifion a staff. O symud offer i helpu cleifion o gwmpas yr ysbyty, mae ei waith yn amrywiol ac yn werth chweil.

“Mae’n wahanol bob dydd, ac rwy’n ei fwynhau’n fawr iawn,” meddai.

Mae Ciaran yn gwerthfawrogi’n arbennig y cyfle i ryngweithio â chleifion. Mae’n mwynhau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w diwrnod nhw.

“Rwy’n hoffi siarad â chleifion a helpu pobl – gall hyd yn oed sgyrsiau bach wneud gwahaniaeth.”

Ers dechrau ei swydd mae hyder ac annibyniaeth Ciaran wedi tyfu. Mae hyn yn rhywbeth y mae’n falch ohono.

“Rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus nawr nag yr oeddwn i yn yr ysgol. Rydw i’n fwy annibynnol a gallaf fwrw ymlaen â fy ngwaith.”

Edrych tua’r dyfodol

Wrth edrych ymlaen, mae Ciaran yn gobeithio parhau i ennill mwy o brofiadau a gwneud cynnydd yn ei rôl, gan barhau i fod yn agored i gyfleoedd yn y dyfodol.

I bobl ifanc ledled Cymru sy’n paratoi i gael eu canlyniadau, mae neges Ciaran yn glir – does dim angen cael popeth yn ei le ar unwaith.

"Peidiwch â phoeni am eich canlyniadau. Cymerwch eich amser a chanolbwyntio ar eich cam nesaf.

“Mae yna lawer o opsiynau gwahanol ar gael, ac os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud, mae yna bobl a all eich helpu.”

Fel Ciaran, dim ond dechrau eich taith yw eich canlyniadau.

Os ydych chi’n ansicr ynglŷn â’ch cam nesaf, peidiwch â phoeni - rydyn ni yma i helpu. P’un a ydych chi’n ystyried mynd i brifysgol, dilyn prentisiaeth, hyfforddiant neu ddod o hyd i gyflogaeth, gallwn ni eich helpu i edrych ar opsiynau ac i ddeall beth sy’n dod nesaf.

Cysylltwch heddiw am gyngor a chymorth am ddim wedi’u teilwra i chi.

Archwilio

Opsiynau a chefnogaeth ôl-16

Beth bynnag yw'ch cam nesaf – mynd i'r coleg, prifysgol, cael swydd, dechrau prentisiaeth neu redeg eich busnes eich hun – rydyn ni yma i'ch helpu i ddewis y llwybr sy'n iawn i chi.

Sut y gallwn ni helpu

Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.