Bu myfyrio a chael cefnogaeth yn help i Betsan ddod o hyd i’w ffordd ymlaen.
Roedd Betsan, 18 oed o gyffiniau Aberystwyth, newydd orffen yn y chweched dosbarth.
Roedd hi wedi cael lle yn y brifysgol i astudio amaethyddiaeth. Fodd bynnag, penderfynodd ohirio cyn derbyn ei chynnig er mwyn cymryd amser i fyfyrio ar ei chamau nesaf.
Dywedodd, “Doeddwn i ddim yn siŵr ai’r brifysgol oedd y peth iawn i mi neu a oeddwn i hyd yn oed eisiau aros ym myd amaethyddiaeth. Doeddwn i ddim yn gwybod pa lwybr i’w gymryd."
Edrych ar yr opsiynau
Gan fod Betsan eisiau deall pa gyfleoedd oedd ar gael, cysylltodd â Cymru'n Gweithio am gymorth.
Cyfarfu â’r cynghorydd gyrfa, Claire, ar alwad fideo. Dechreuon nhw ystyried gwahanol lwybrau, gan gynnwys prentisiaethau, swyddi ac astudiaeth bellach.
Mae gan Betsan ddiddordeb cryf mewn amaethyddiaeth, yn enwedig ffermio da byw. Fe’i magwyd ar dyddyn ond teimlai nad oedd ganddi ddigon o brofiad yn y sector.
Yn ystod ei hapwyntiad cyntaf, cyflwynwyd Betsan i’r rhaglen Dechrau Ffermio drwy Gyswllt Ffermio.
Dywedodd, “Doeddwn i ddim yn gwybod am y rhaglen cyn hyn. Yn sicr, heb siarad â Cymru'n Gweithio fydden i byth wedi gwneud cais."
Magu hyder trwy brofiad
Er bod y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn agos iawn, penderfynodd wneud cais y diwrnod hwnnw. Gyda chymorth Claire, cwblhaodd ei chais a pharatodd ar gyfer cyfweliad. Buan y cafodd gynnig lleoliad.
Dywedodd Betsan, "Roedd hyd yn oed mynd trwy’r broses o wneud cais a mynd i’r cyfweliad yn brofiad da i mi."
Mae Betsan yn teimlo bod ei lleoliad ar hyn o bryd wedi rhoi’r cyfle iddi fagu ei hyder.
Dywedodd, "Mae’n ehangu fy ngwybodaeth a’m profiad. Dw i’n teimlo y bydd gen i ddealltwriaeth well o lawer cyn mynd i’r brifysgol."
Symud ymlaen
Mae Betsan bellach yn teimlo’n fwy hyderus ynglŷn â’i chamau nesaf. Dywedodd, "Rwy’n teimlo’n llawer mwy sicr fy mod i wedi gwneud y penderfyniad cywir. Rwy’n hapusach ac yn fwy hyderus am y dyfodol."
Mae hi’n bwriadu cwblhau ei lleoliad cyn dechrau yn y brifysgol ym mis Medi. Bydd hi hefyd yn parhau i edrych ar y gwahanol feysydd o fewn y diwydiant.
Mae Betsan yn annog pobl ifanc eraill sy’n teimlo’n ansicr ynghylch eu camau nesaf i geisio cymorth.
Peidiwch ag oedi cyn cael cymorth. Gwnaeth siarad â chynghorydd gyrfa fy helpu i weld beth allwn i ei wneud yn y dyfodol."
Ychwanegodd Betsan, "Roedd pawb y gwnes i siarad â nhw yn gyfeillgar iawn. Roedd y cyngor a’r arweiniad a gefais yn ddefnyddiol iawn."
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Cael help i benderfynu beth i'w wneud ar ôl gadael yr ysgol. Darganfyddwch beth yw eich opsiynau, gan gynnwys prentisiaethau, hyfforddiant, cael swydd, addysg bellach a mwy.
Chwiliwch am raglenni cymorth a all eich helpu i gael y sgiliau sydd eu hangen arnoch, gan gynnwys Twf Swyddi Cymru+, Prentisiaethau, a mwy.
Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.