Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Abigail

Abigail

Mae Abigail wedi magu hyder wrth gael cymorth ac wedi cynllunio ei chamau nesaf i’r brifysgol.

Mae Abigail, 17 oed, yn astudio bioleg, cemeg, mathemateg a Bagloriaeth Cymru ar hyn o bryd. Mae hi’n gobeithio cymryd y cam nesaf yn ei haddysg drwy astudio bioleg ym mhrifysgol Rhydychen. Gyda diwrnod y canlyniadau’n agosáu, mae hi’n ceisio canolbwyntio a pheidio â gadael i nerfau gymryd drosodd.

Diddordeb cynnar

“Rwy’n gobeithio astudio bioleg yn y brifysgol. Ar ôl ymweld ar ddiwrnod agored, mae wedi bod yn rhywbeth rydw i wedi bod yn gyffrous amdano.” esboniodd Abigail.

Gwnaeth tyfu i fyny ar fferm sbarduno diddordeb Abigail yn y byd naturiol o oedran cynnar. Ynghyd â’r hyn y mae hi wedi’i ddysgu yn yr ysgol, mae’r profiadau hynny wedi helpu i lunio ei huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

“Mae byw ar y fferm wedi golygu bod fy mywyd cyfan wedi’i lunio o gwmpas bioleg a’r byd naturiol. Mae’r ysgol wedi cryfhau fy niddordeb ac wedi gwneud i mi eisiau mynd gam ymhellach.”

Ystyried opsiynau

Er y gall gwneud cais i brifysgol fel Rhydychen deimlo’n frawychus, mae Abigail yn dweud bod ei phenderfyniad wedi dod o’r awydd i gadw ei hopsiynau ar agor. “Doeddwn i ddim yn hollol siŵr beth roeddwn i eisiau ei wneud yn y tymor hir. Roedd prifysgol yn teimlo fel yr opsiwn cywir i ddysgu sgiliau newydd heb ymrwymo i un yrfa yn benodol.”

Drwy gydol ei thaith, mae Abigail wedi archwilio amrywiaeth o gyfleoedd i’w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am ei dyfodol.

“Dysgais am wahanol opsiynau, gan gynnwys prentisiaethau a phrifysgol. Helpodd hyn fi i ddeall beth allai fod yn iawn i mi.”

Magu hyder a chael phrofiad

Gyda chefnogaeth gan ei hysgol a’i theulu, mae Abigail wedi gallu magu hyder a chael phrofiad.

“Mae fy ysgol wedi bod yn gymorth mawr. Maen nhw wedi fy helpu gyda fy natganiad personol ac wedi fy mharatoi ar gyfer cyfweliadau.

“Rydw i hefyd wedi cael cyfleoedd i ymweld â phrifysgolion a chymryd rhan mewn prosiectau. Mae hyn wedi magu fy hyder.”

Y tu allan i’r ystafell ddosbarth, mae Abigail hefyd wedi datblygu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr. Mae hi wedi bod yn rhan o’i Chlwb Ffermwyr Ifanc lleol, sydd wedi helpu ei pharatoi ar gyfer y dyfodol.

“Mae bod yn rhan o’r Ffermwyr Ifanc wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau fel siarad cyhoeddus, gweithio mewn tîm a hyder. Bydd hyn o gymorth mawr yn y brifysgol.”

Edrych tua’r dyfodol

Gan feddwl am ei dyfodol, mae Abigail yn gyffrous am barhau â’i hastudiaethau. Mae hi hefyd yn edrych ymlaen at y profiad ehangach y gall prifysgol ei gynnig.

“Rwy’n gyffrous i wella fy nealltwriaeth o fioleg, ond hefyd i gwrdd â phobl newydd. Rwyf am ymuno â chymdeithasau a phrofi rhywbeth newydd.”

Ar yr un pryd, mae hi’n cyfaddef bod cymryd cam mor fawr yn dod â’i heriau ei hun.

“Rydw i ychydig yn nerfus am symud i ffwrdd o gartref, yn enwedig gan ei fod yn eithaf pell, ond rydw i hefyd yn gyffrous iawn.”

Mae Abigail yn awyddus i atgoffa eraill nid un llwybr yn unig sydd i lwyddiant.

“Peidiwch â bod o dan bwysau. Byddwch yn falch o’r gwaith caled rydych chi wedi’i wneud. Os na chewch y canlyniadau yr oeddech yn gobeithio amdanynt, cofiwch fod opsiynau eraill ar gael.”

“Gweithiwch yn galed ac arhoswch yn benderfynol. Manteisiwch ar bob cyfle sy’n dod i chi, boed hynny’n academaidd neu’n rhywbeth gwahanol.”

Fel Abigail, does dim angen i chi gynllunio’ch dyfodol cyfan i gymryd eich cam nesaf.

Os ydych chi’n ansicr ynglŷn â’ch cam nesaf, peidiwch â phoeni – rydyn ni yma i helpu. P’un a ydych chi’n ystyried mynd i brifysgol, ymgymryd â phrentisiaeth neu hyfforddiant, neu ddod o hyd i gyflogaeth, gallwn ni eich helpu i edrych ar opsiynau ac i ddeall beth sy’n dod nesaf.

Cysylltwch heddiw am gyngor a chymorth am ddim wedi’u teilwra i chi.

Archwilio

Opsiynau a chefnogaeth ôl-16

Beth bynnag yw'ch cam nesaf – mynd i'r coleg, prifysgol, cael swydd, dechrau prentisiaeth neu redeg eich busnes eich hun – rydyn ni yma i'ch helpu i ddewis y llwybr sy'n iawn i chi.

Sut y gallwn ni helpu

Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.