Dod o hyd i gyfeiriad a chydbwysedd newydd ar ôl colli swydd.
Mae Liudmyla yn byw yng Nghaerfyrddin ar ôl symud i Gymru o Wcráin gyda’i theulu. Ar ôl gweithio fel cynorthwyydd addysgu trwy asiantaeth, collodd ei swydd yn sydyn. Roedd yn teimlo’n ansicr ac yn isel oherwydd hyn..
Dywedodd, ‘Roeddwn i’n eithaf siomedig a doeddwn i ddim eisiau mynd yn ôl i’r un math o swydd. Dechreuais chwilio am rywbeth gwahanol.’
Cysylltu i ofyn am gymorth
Penderfynodd Liudmyla ymweld â’i chanolfan Gyrfa Cymru leol i gael cyngor. Mae Cymru’n Gweithio yn cael ei darparu gan Gyrfa Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae Cymru’n Gweithio yn darparu cyngor gyrfa i bobl 16 oed ac yn hŷn.
Trefnodd apwyntiad wyneb yn wyneb a chael cyfarfod gyda’r cynghorydd gyrfa, Laura.
Yn ystod eu cyfarfod, anogwyd Liudmyla i fyfyrio ar yr hyn yr oedd hi’n ei ddymuno wrth weithio, a sut yr oedd angen iddo gyd-fynd â’i bywyd.
Dywedodd, ‘Roedd Laura yn gyfeillgar ac yn gefnogol iawn. Roedd hi’n hawdd siarad â hi.
‘Gofynnodd gwestiynau a wnaeth i mi feddwl yn wahanol. Roeddwn i’n gallu gweld fy sefyllfa o safbwynt gwahanol, a deall beth oedd gwir ei angen arna i.’
Archwilio opsiynau newydd
Drwy’r trafodaethau hyn, sylweddolodd Liudmyla fod angen swydd arni a oedd hefyd yn cynnal ei llesiant a’i bywyd teuluol.
Dywedodd: ‘Deallais nad oedd rhaid i mi aros yn yr un math o rôl. Roeddwn i angen rhywbeth a fyddai’n gweithio i mi a fy nheulu.’
Roedd hi eisiau canolbwyntio ar gynnal ei phlant, gan gynnwys ei phlentyn ieuengaf, sy’n hyfforddi’n rheolaidd fel nofiwr, a’i phlentyn hynaf, sydd yn y coleg.
Anogodd Laura i Liudmyla ystyried gwahanol sectorau, gan gynnwys manwerthu, lle gallai fod mwy o hyblygrwydd. Fe’i cefnogodd hefyd i chwilio am swyddi yn fwy effeithiol, gan gynnwys edrych yn uniongyrchol ar wefannau cwmnïau.
Gyda’i gilydd, daethon nhw o hyd i swydd wag mewn siop leol, a oedd yn addas i anghenion Liudmyla.
Cymryd camau
Ar ôl y cyfarfod, gwnaeth Liudmyla gais am y swydd a bu’n llwyddiannus. Mae hi bellach yn gweithio ym maes manwerthu ac wedi gallu dod o hyd i gydbwysedd gwell rhwng gwaith a bywyd teuluol.
Dywedodd Liudmyla, ‘Ar ôl ein cyfarfod fe wnes i gais, a nawr rwy’n gweithio yno. Rwy’n mwynhau fy swydd ac yn teimlo’n fwy hyderus.’
Cyngor i bobl eraill
Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, mae Liudmyla yn annog eraill mewn sefyllfa debyg i ddal ati, hyd yn oed pan fydd pethau’n teimlo’n anodd.
Dywedodd Liudmyla, ‘Peidiwch byth ag ildio. Hyd yn oed os ydych chi’n meddwl na allwch chi barhau, daliwch ati i chwilio. Yn y diwedd, fe ddewch chi o hyd i’r hyn y mae ei angen arnoch chi.’
Os ydych chi wedi colli’ch swydd ac yn teimlo bod angen cymorth diswyddo arnoch chi, neu fynediad at hyfforddiant ac uwchsgilio, ewch i Cymorth ar ôl colli swydd neu cysylltwch â ni.
Archwilio
Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.
Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.