Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Jayne J

Jayne

Cafodd Jayne help gan gymorth gyrfa i ddod o hyd i'r hyder i ddechrau pennod newydd yn 60 oed.

Mae Jayne yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Treuliodd lawer o'i gyrfa mewn rolau cymorth cyn symud i faes rheoli.

Er ei bod hi'n mwynhau ei gwaith, ar ôl colli ei gŵr i COVID-19 bum mlynedd yn ôl bu’n meddwl am yr hyn yr oedd hi ei eisiau ei wneud nesaf.

Dywedodd Jayne, “Roeddwn i jyst yn cadw i fynd, cadw i fynd, cadw i fynd. Roeddwn i'n teimlo'n flinedig ac roeddwn i eisiau meddwl am yr hyn roeddwn i wir eisiau ei wneud.

“Roeddwn i bob amser wedi mwynhau rolau cefnogol a doeddwn i erioed wedi bwriadu mynd i faes rheoli. Ond dros y blynyddoedd, symudais ymlaen i swyddi rheoli a sylweddolais i fy mod i eisiau rhywbeth gwahanol.”

Ar ôl penderfynu cymryd cam yn ôl, dechreuodd Jayne chwilio am rôl newydd. Serch hynny, yn fuan dechreuodd bryderu. “Roeddwn i'n meddwl y gallai fy oedran fod yn fy erbyn.”

Edrych ar bethau'n wahanol

Cysylltodd Jayne â Cymru'n Gweithio a chafodd ei chyflwyno i Kelly y cynghorydd gyrfa.

Dywedodd, “Ar y pryd, roeddwn i’n gwneud ceisiadau am gryn dipyn o swyddi ond weithiau fyddwn i ddim hyd yn oed yn cael cydnabyddiaeth.”

Helpodd Kelly Jayne i edrych ar ei gyrfa a'i chymwysterau o safbwynt gwahanol. Rhannodd gyngor ymarferol ar wneud ceisiadau a helpu Jayne i wella ei CV.

Dywedodd Jayne, “Helpodd Kelly fi i gofio fy sgiliau a’m profiad. Roeddwn i bron wedi anghofio beth yw fy ngalluoedd.”

Magu hyder

Helpodd Kelly Jayne i baratoi ar gyfer cyfweliadau a chyflwynodd Jayne i ffyrdd newydd o gyflwyno ei phrofiad i gyflogwyr.

Dywedodd Jayne, “Dysgodd hi mi sut i ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial i gymharu fy CV â disgrifiadau swyddi ac i’w wella heb newid pwy oeddwn i.

“Dangosodd Kelly straeon i mi hefyd am bobl a oedd wedi dod o hyd i swyddi newydd a hyd yn oed wedi dechrau gyrfa newydd yn ddiweddarach mewn bywyd.”

Helpodd y sgyrsiau hyn Jayne i edrych ar ei sefyllfa mewn ffordd wahanol.

Dod o hyd i'r rôl gywir

Wrth i Jayne barhau i chwilio am swydd, gwelodd rôl gweinyddwr gydag elusen gwnsela Tŷ Elis, a daliodd ei sylw.

Dywedodd Jayne, “Ar y pryd, roeddwn i’n meddwl wrthyf fy hun fod y swydd hon yn berffaith i mi.”

Ar ôl gwneud cais llwyddiannus, cynigiwyd y rôl i Jayne ac mi dderbyniodd yn hapus.

Gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ei swydd newydd, dywedodd, “Mae’n swydd ddiddorol iawn ac mae pawb mor hyfryd. Rwy'n hapus iawn lle rwyf i ar hyn o bryd.”

Dechrau newydd

Wrth edrych yn ôl, mae Jayne yn teimlo'n llawer mwy cadarnhaol am y dyfodol.

Dywedodd, “Gwnaeth y gefnogaeth i mi sylweddoli y gallwn i ddod o hyd i swydd arall ac na ddylwn gyfyngu fy hun. Helpodd Kelly fi i weld nad ydych chi byth yn rhy hen i wneud rhywbeth gwahanol.”

Mae Jayne yn annog unrhyw un sy'n teimlo'n ansicr am ei ddyfodol i geisio cefnogaeth:

“Peidiwch â phanicio. Credwch ynoch chi'ch hun a daliwch ati.”

Ychwanegodd, “Cofiwch beth allwch chi ei wneud a manteisiwch ar y gefnogaeth lle gallwch chi. Mae wir yn helpu.”

Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’r cyfleoedd sydd ar gael gyda chynghorydd gyrfa neu anogwr cyflogadwyedd, cysylltwch â ni heddiw.

Archwiliwch

Adolygiad gyrfa

Angen help i newid eich gyrfa? Gall Cymru'n Gweithio eich helpu i ddarganfod y trywydd sy'n iawn i chi. Archebwch adolygiad gyrfa rhad ac am ddim.

Sut y gallwn ni helpu

Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni