Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Gareth

Gareth

Llwyddodd Gareth i ailhyfforddi a sicrhau rôl newydd ar ôl colli ei swydd

Roedd Gareth wedi gweithio yn y sector addysg ers dros ddegawd pan wynebodd diswyddiad. Ar ôl 11 mlynedd yn ei rôl, penderfynodd achub ar y cyfle i gamu’n ôl a meddwl am ei ddyfodol.

Dywedodd, "Ar ôl gweithio’n ddi-dor am flynyddoedd, roedd yn teimlo fel yr adeg iawn i gymryd saib a meddwl am yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud nesaf."

Fodd bynnag, yn fuan daeth y broses o chwilio am swydd yn rhwystredig, "Roeddwn i’n ceisio am swyddi nad oeddwn i wir eu heisiau, dim ond i fodloni’r gofynion. Roedd yn broses eithaf digalon."

Dod o hyd i gyfeiriad

Anogwyd Gareth i gysylltu â Cymru’n Gweithio a dechreuodd gael cymorth gan y cynghorydd gyrfa, Kelly.

Yn ystod eu sesiynau, gwnaethant edrych ar ei brofiad, ei flaenoriaethau a’r hyn yr oedd ei eisiau yn ei rôl nesaf.

Dywedodd, “Wrth siarad â Kelly ces i gyfle i grisialu’r hyn roeddwn i’n ei feddwl. Gwnaeth hynny ddod â phethau ynghyd a rhoi ffocws i mi."

Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw nodi’r gwasanaeth sifil fel opsiwn cryf. Byddai’n cynnig sefydlogrwydd hirdymor, datblygiad gyrfa a buddion da.

Dechreuodd Gareth wneud cais am rolau a chafodd gymorth gyda’i geisiadau. Roedd hyn yn cynnwys cymorth i wella ei ddatganiad personol.

Magu sgiliau a hyder

Ochr yn ochr â’i chwiliad am swydd, cafodd Gareth fynediad at hyfforddiant a ariannwyd drwy raglen ReAct+.

Gyda chymorth Kelly, cwblhaodd gwrs sylfaen a chwrs ymarferydd Rheoli Prosiect drwy gynllun Cymru Ystwyth.

Dywedodd, "Cafodd y cwrs ei ariannu’n llawn a rhoddodd gymwysterau cydnabyddedig i mi. Rwy’n defnyddio’r sgiliau hynny bob wythnos nawr."

Cafodd gymorth hefyd gan yr hyfforddwr cyflogadwyedd, CK, a’i helpodd i baratoi ar gyfer y cyfweliadau.

Dywedodd Gareth, “Gwnaeth CK ymarfer cwestiynau cyfweliad gyda mi a dangosodd i mi sut i wella fy atebion. Roedd y ffocws yn gadarn, ac fe wnaeth wahaniaeth mawr heb fwrw fy hyder.

Yn fuan wedyn, llwyddodd Gareth i sicrhau rôl fel rheolwr achosion yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Dywedodd, “Cefais y swydd gyntaf i mi wneud cais amdani ar ôl cael y cymorth hwn."

Symud ymlaen

Mae Gareth bellach yn mwynhau ei rôl newydd. Dywedodd, "Mae yna ffocws gwirioneddol ar gwsmeriaid. Gallwch chi wneud gwahaniaeth i ddiwrnod rhywun, ac mae hynny’n rhywbeth rwy’n ei fwynhau’n fawr."

Wrth fyfyrio ar ei daith, mae Gareth yn credu bod y cymorth a gafodd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol. Dywedodd, "Helpodd Kelly fy llywio i’r cyfeiriad cywir a gwnaeth i’r broses gyfan deimlo’n llawer mwy eglur ac yn haws ymdopi â hi.

"Mae wir yn helpu trafod pethau gyda rhywun a all eich tywys a’ch helpu i ganolbwyntio ar yr hyn rydych chi wir ei eisiau."

Os ydych chi wedi colli’ch swydd ac yn teimlo bod angen cymorth diswyddo arnoch chi neu fynediad at hyfforddiant ac uwchsgilio, ewch i Cymorth ar ôl colli swydd neu cysylltwch â ni.

Archwilio

Cymorth ar ôl colli swydd

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.

ReAct Plws

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.
 

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni