Gwnaeth cymorth gyrfaoedd helpu Sinead i gymryd camau tuag at yrfa newydd ym maes gofal iechyd.
Roedd Sinead, 30 oed, o Gwmbrân, yn ansicr ynglŷn â’i dyfodol. Roedd hi’n gweithio’n rhan-amser fel gweithiwr gofal cartref tra’n magu ei mab wyth oed.
Er ei bod yn mwynhau helpu pobl, roedd y rôl yn heriol yn gorfforol. Roedd hi hefyd yn teimlo’n ansicr ynglŷn â beth i’w wneud nesaf.
Dywedodd, “Roeddwn i’n ceisio am swyddi dim ond er mwyn cael newid pethau, ond doeddwn i’n cael fawr o lwc. Doeddwn i ddim wir yn gwybod beth yr oeddwn i eisiau ei wneud.”
Dod o hyd i gyfeiriad
Awgrymodd ffrind y gallai Sinead ddychwelyd i fyd addysg ac ennill sgiliau newydd. Penderfynodd geisio cymorth, a threfnodd apwyntiad gyda Cymru’n Gweithio drannoeth. Cyfarfu â’r cynghorydd gyrfa, Kris, yng nghanolfan gyrfa y Fenni.
Ar y dechrau, bu Sinead yn ystyried rolau fel cyfrifyddu, ond ar ôl trafod pethau, sylweddolodd nad dyna’r dewis cywir.
Dywedodd, “Rwy’n hoffi ffigurau, ond rwy’n dda gyda phobl. Rwy’n hoffi siarad â phobl a’u helpu nhw. Fyddwn i ddim yn cael yr un boddhad o rywbeth fel cyfrifyddu.”
Felly, helpodd Kris hi i archwilio rolau eraill yn y sector gofal iechyd a oedd yn llai heriol yn gorfforol ond yn dal i ganolbwyntio ar bobl. Gwnaethon nhw edrych ar opsiynau fel therapi galwedigaethol, gwaith cymorth, a nyrsio yn y maes iechyd meddwl.
Dywedodd Sinead, “Cyn gynted ag y soniwyd am therapi galwedigaethol, meddyliais, ‘Dyna beth rydw i eisiau ei wneud’.”
I gynorthwyo ei gwaith archwilio gyrfa, darparodd Kris amrywiaeth o ddolenni ac adnoddau perthnasol i Sinead, gan gynnwys tudalennau gwybodaeth Gyrfa Cymru ar gyfer swyddi fel therapydd galwedigaethol.
Cymryd camau
Ar ôl yr apwyntiad, gwnaeth Sinead ei hymchwil ei hun. Edrychodd ar ba gymwysterau y byddai eu hangen arni, a’r gwahanol lwybrau i’r rôl honno. Dychwelodd i’w sesiwn nesaf gyda Kris gyda chynllun.
Gyda chefnogaeth Kris, penderfynodd wneud cais am gwrs Mynediad at Addysg Uwch mewn gofal iechyd yn ei choleg lleol. Bydd hyn yn ei helpu i symud ymlaen i’r brifysgol yn y dyfodol.
Dywedodd Sinead, “Mae hyn wedi rhoi rhywbeth i mi anelu ato. Rwy’n teimlo fel fy mod i’n gweithio tuag at rywbeth nawr.”
Mae Sinead bellach wedi gwneud cais am y cwrs, ac mae’n paratoi ar gyfer ei chyfweliad gan y coleg.
Edrych tua’r dyfodol
Mae Sinead bellach yn teimlo’n fwy hyderus a chadarnhaol am ei dyfodol.
Dywedodd, “Rwy’n teimlo fy mod wedi fy ngrymuso nawr. Rwy’n teimlo’n fwy pendant am yr hyn rwy’n ei wneud, ac yn llawn cyffro am unwaith. Dydw i ddim wedi teimlo fel hyn ers amser maith.”
Ychwanegodd Sinead, “Oni bai am Kris, dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi penderfynu mynd yn ôl i addysg. Rhoddodd yr hyder a’r cyfarwyddyd i mi wneud rhywbeth mwy ystyrlon.”
Mae hi’n annog eraill sy’n teimlo’n ansicr am eu dyfodol i geisio cymorth. “Siaradwch â rhywun. Gall cynghorydd gyrfa eich helpu i droi eich syniadau yn gynllun.”
Os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn, ac eisiau edrych ar gyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â thîm Cymru’n Gweithio drwy ffonio am ddim ar 0800 028 4844, anfon e-bost cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru neu gysylltu â ni drwy ein sgwrs ar-lein.
Archwilio
Chwiliwch am gyrsiau a dysgu sy'n addas i chi. Dewch o hyd i'r ystod o opsiynau dysgu sydd ar gael.
Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.
Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.