Cafodd Rhys help gan gynghorydd gyrfa i deimlo’n fwy hyderus ynglŷn â’i gamau nesaf
Doedd Rhys, sy’n 15 oed ac o ardal Gwent, ddim yn siŵr beth i’w wneud ar ôl gadael yr ysgol. Edrychodd ar ychydig o gyrsiau coleg ond teimlodd nad oedden nhw’n addas iddo.
Cymorth gan Gyrfa Cymru
Cafodd Rhys gyfarfod gyda Vicki, cynghorydd gyrfa sy’n gweithio yn ei ysgol. Fe wnaethon nhw siarad am ei ddewisiadau a’r hyn a allai fod orau iddo.
Dywedodd “Ym mis Ionawr eleni fe wnes i sylweddoli bod rhaid i mi benderfynu beth sy’n dod nesaf. Doeddwn i ddim yn teimlo bod coleg yn iawn i mi. Roeddwn i eisiau dechrau gweithio, ond roeddwn i’n gwybod nad mynd yn syth i mewn i swydd fyddai’r syniad gorau o bosibl.
“Helpodd y cyfarfod gyrfaoedd fi i weld y gallai prentisiaeth fod yn ddewis gwell.”
Cymryd camau
Cafodd Rhys gefnogaeth gan Vicki drwy gael help ganddi i archwilio ymhellach i ddewisiadau gwahanol, i feddwl am y camau nesaf ac i wneud cais am bethau.
Dywedodd Rhys “Fe helpodd hi fi i wneud cais am gwrs coleg, i ddod o hyd i gwmnïau a fyddai’n fy nghyflogi, ac i edrych ar brentisiaethau. Sgwrsio oedden ni i ddechrau, ac yna symudon ni ymlaen i gynllunio’n iawn.”
Penderfynodd Rhys ei fod eisiau mynd i faes gweithgynhyrchu metel. Dywedodd “Rwy’n hoffi’r ochr greadigol ohono, ac rwy’n hoffi gweithio gyda fy nwylo. Nid swydd mewn swyddfa mohoni – byddaf yn gwneud rhywbeth corfforol ac yn creu pethau. Mae hynny wir yn apelio ataf.”
Edrych tua'r dyfodol
Yn ddiweddar, cafodd Rhys gyfarfod â chwmni sy’n cynnig prentisiaethau. Dywedodd, “Maen nhw wedi cadarnhau eu bod nhw eisiau i mi gael lleoliad. Nawr dw i jest yn aros i’r coleg fy nerbyn ar y cwrs. Dw i wir yn meddwl, heb Gyrfa Cymru, na fyddwn i wedi’i gael.”
Ychwanegodd Rhys, “Ar y dechrau, doedd gen i ddim syniad beth roeddwn i eisiau ei wneud. Roedd cymaint o ddewisiadau. “Pan siaradais â Vicki, fe deimlais i ei bod hi wir eisiau fy helpu. Doedd e ddim yn teimlo fel siarad ag athro. Roedd hi eisiau i mi wneud yr hyn oedd yn teimlo’n iawn i mi.”
Mae Rhys yn annog eraill i estyn allan hefyd, “Byddwn i’n bendant yn dweud: ceisiwch siarad â rhywun o Gyrfa Cymru. Mae wedi fy helpu gymaint ac mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fy nyfodol.”
Nodau'r dyfodol
Mae gan Rhys gynlluniau mawr. Dywedodd “Ymhen pump neu ddeng mlynedd, rwy’n gobeithio dechrau fy musnes fy hun yn fy ardal. Rwyf eisiau i bobl wybod y gallan nhw ddod ataf i am waith gonest.”
Archwilio
Beth bynnag yw'ch cam nesaf – mynd i'r coleg, prifysgol, cael swydd, dechrau prentisiaeth neu redeg eich busnes eich hun – rydyn ni yma i'ch helpu i ddewis y llwybr sy'n iawn i chi.
Mae prentisiaeth yn caniatáu i chi ennill wrth i chi ddysgu. P'un ai ydych chi'n dechrau neu'n meddwl am newid gyrfa, gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r cyfle cywir.
Mynnwch gefnogaeth i archwilio'ch opsiynau.
Mwy o straeon go iawn
A haircare entrepreneur from Pembrokeshire is urging young people to consider their options when getting their results this summer.
Careers support helped Katy to successfully apply for her ideal course at college.
Careers advice inspired Amelia to start her apprenticeship journey.