Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Caitlyn

Caitlyn

Gyda chymorth gyrfa, daeth Caitlyn o hyd i’w brwdfrydedd a chynlluniodd ei chamau nesaf i’r brifysgol.

Cyn canlyniadau ei harholiadau, roedd Caitlyn yn teimlo’n ansicr ynglŷn â beth i’w wneud ar ôl gorffen yn yr ysgol.

Roedd Caitlyn yn gwybod ei bod hi eisiau gyrfa lle gallai helpu pobl. Fodd bynnag, nid oedd hi’n siŵr pa opsiynau oedd ar gael na sut i wneud hyn.

Dywedodd, “Roeddwn i’n mewn penbleth ynglŷn â’r hyn roeddwn i eisiau ei wneud. Does neb yn fy nheulu wedi bod i’r brifysgol, felly roedd edrych ar yr opsiynau hyn yn teimlo’n newydd iawn ac yn eithaf brawychus.”

Dod o hyd i gymorth a chyngor

Penderfynodd Caitlyn drefnu apwyntiad i gael cyfarwyddyd. Cyfarfu â’r cynghorydd Gyrfa Cymru Christie, sy’n gweithio yn ei hysgol.

Dywedodd, “Roedd Christie’n gallu gweld yn syth fy mod i o dan straen. Roedd hi’n llawn cydymdeimlad a helpodd dawelu fy meddwl.

“Roedd ganddi wên ar ei hwyneb bob amser ac roedd yn gwneud i mi deimlo y gallwn siarad yn agored â hi.”

Archwilio opsiynau

Gyda’i gilydd fe wnaethon nhw archwilio amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys prifysgol, prentisiaethau a llwybrau eraill i mewn i waith.

Dywedodd, “Wnaeth Christie byth fy ngwthio i i un cyfeiriad. Esboniodd wahanol lwybrau a helpodd fi i ddeall beth oedd pob un yn ei olygu.”

Gan fod Caitlyn yn arbennig o awyddus i helpu pobl, fe wnaethon nhw archwilio gyrfaoedd ym maes gofal iechyd. Drwy’r sgyrsiau hyn, darganfu Caitlyn fod therapi galwedigaethol yn cyd-fynd â’i diddordebau a’i gwerthoedd.

Dywedodd, “Roeddwn i’n hoffi’r syniad o helpu pobl mewn ffordd fwy holistaidd. Roedd therapi galwedigaethol yn wirioneddol sefyll allan i mi.”

Y camau nesaf

Gyda chefnogaeth, ymchwiliodd Caitlyn i gyrsiau therapi galwedigaethol ac archwiliodd brifysgolion oedd yn cynnig y pwnc.

Dywedodd:,“Fe wnaethon ni edrych ar lawer o opsiynau, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe a lleoedd pellach i ffwrdd fel Bryste. Doeddwn i ddim eisiau mynd yn rhy bell o adref, felly fe wnaethon ni drafod y peth a chytuno bod Caerdydd yn teimlo’n iawn. Mae gan y cwrs adolygiadau gwych ac roedd y lleoliad yn addas iawn i mi.

“Esboniodd Christie bopeth gam wrth gam. Roedd pethau fel cyllid myfyrwyr yn teimlo’n frawychus iawn ar y dechrau ond fe wnaeth Christie nhw’n llawer haws i’w deall.”

Gyda chynllun clir dywedodd hi: “Rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus nawr. Dw i’n gwybod beth dw i eisiau ei wneud a beth yw fy nghamau nesaf.”

Cyngor i bobl ifanc eraill

Mae Caitlyn eisiau i bobl ifanc eraill sy’n teimlo’n bryderus am ganlyniadau wybod bod cefnogaeth ar gael.

Dywedodd, “Hyd yn oed os nad yw pethau’n dilyn y cynllun yn union, nid yw hynny’n golygu na allwch chi lwyddo. Mae yna lawer o lwybrau gwahanol, ac mae pobl ar gael i’ch helpu chi ar eich ffordd.

“Roedd Christie yno bob amser i’m cefnogi a’m helpu i ddeall fy opsiynau. Roedd y gefnogaeth honno’n golygu popeth i mi.”

Ychwanegodd, "Dywedodd Christie fod ei drysau bob amser ar agor a’i bod yno i mi bob amser os oes angen unrhyw beth arnaf. Felly rydw i bob amser wedi teimlo croeso mawr ac rwy’n gwybod y gallaf ymweld â hi bob amser hyd yn oed am gwestiwn cyflym neu dawelwch meddwl.”

Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa cysylltwch â ni heddiw.

Archwilio

Opsiynau a chefnogaeth ôl-16

Beth bynnag yw'ch cam nesaf – mynd i'r coleg, prifysgol, cael swydd, dechrau prentisiaeth neu redeg eich busnes eich hun – rydyn ni yma i'ch helpu i ddewis y llwybr sy'n iawn i chi.

Sut y gallwn ni helpu

Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni