Fe wnaeth cynghorydd gyrfa Hsin ei harwain trwy gyfle hyfforddi newydd a agorodd ddrysau ar gyfer ei gyrfa yn y dyfodol.
Roedd Hsin yn ddylunydd graffig am flynyddoedd lawer, nes iddi deimlo ei bod angen newid.
Roedd hi bob amser yn angerddol am yr amgylchedd ac yn awyddus i ddechrau gyrfa yn y sector hwnnw.
Ar ôl mynychu coleg yn Llundain i astudio cadwraeth amgylcheddol, roedd hi'n anodd dod o hyd i swyddi â thâl yn y sector.
Trodd Hsin at wirfoddoli nes iddi gael hyfforddeiaeth yn Ymddiriedolaeth Dyffryn Elan.
Hybu ei gyrfa newydd
Roedd Hsin eisiau cefnogaeth i'w helpu i wneud y gorau o'i hyfforddeiaeth a'r cyfleoedd a fyddai ganddi yn sgil hynny.
Gydag anogaeth gan ei chyflogwr, ymwelodd Hsin â gwefan Cymru'n Gweithio. Ymunodd â'r swyddogaeth sgwrsio byw ar y wefan a gwneud apwyntiad fideo gyda'r cynghorydd gyrfa, Megan.
Gwnaeth Megan helpu Hsin i sylweddoli ei bod hi'n gymwys ar gyfer cyfrif dysgu personol. Byddai'r rhaglen cyfrif dysgu personol yn galluogi Hsin i astudio'n rhan-amser ar gwrs penodol sy'n gysylltiedig â sector blaenoriaeth ochr yn ochr â'i chyflogaeth bresennol.
Roedd gan Hsin gwrs hyfforddi mewn golwg i'w chefnogi yn ei rôl bresennol.
Dywedodd, “Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau hyfforddi i hedfan drôn masnachol.
“Yn fy rôl bresennol, mae llawer o’r ardaloedd rydyn ni’n teithio iddyn nhw’n eithaf anghysbell. Mae'n rhaid i ni gerdded i gyrraedd yno, oherwydd does dim ffordd y gallwn ni fynd â cherbyd yno.
“Roeddwn i’n gwybod, pe bai gen i drôn, y gallwn i ei raglennu, ei hedfan yno, a chymryd yr holl ddelweddau yn gyntaf.”
Dyfodol gobeithiol
Gwnaeth Megan helpu Hsin i ddod o hyd i'r cwrs mwyaf addas gyda darparwr hyfforddiant cydnabyddedig ar gyfer y rhaglen. Fe’i cefnogodd hefyd i wneud cais am y cyfrif dysgu personol.
Derbyniwyd Hsin i'r rhaglen ac aeth ymlaen i gwblhau ei chwrs drôn delfrydol.
Ers hynny mae hi wedi cael rhagor o lwyddiant gyda'i chyflogwr, ar ôl cael ei dyrchafu i swydd Swyddog Adfer Mawndiroedd Cynorthwyol.
Dywedodd, “Mae’r budd i mi wedi bod yn aruthrol oherwydd ei fod wedi rhoi mantais i mi ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.”
Edrych yn ôl
Dywedodd Hsin, “Alla i ddim diolch digon i fy nghynghorydd gyrfa Megan oherwydd dechreuais i feddwl mewn ffordd hollol wahanol.
“Mae’r broses gyfan hon yn hawdd iawn, iawn, ac yn enwedig i bobl sy’n swil iawn fel fi.
“Ewch ar y wefan, defnyddiwch y sgwrs fyw i weld a ydych chi'n gymwys. Bydd gennych gynghorydd personol a fydd yn eich helpu i ymchwilio ymhellach.
“Os nad ydych chi'n hoffi'r hyn rydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd, rhowch gynnig ar wefan Cymru'n Gweithio. Efallai meithrin sgil wahanol. Gallai newid eich bywyd!”
Archwiliwch Cyfrif Dysgu Personol i wybod mwy, neu cysylltwch â Cymru'n Gweithio.