Cymorth gyrfa yn helpu Milo i gymryd y cam cyntaf tuag at ddod yn artist tatŵ
O oedran ifanc roedd Milo, 19 oed o Gaerffili, yn gwybod ei fod wrth ei fodd yn tynnu lluniau. Ond roedd yn ei chael hi’n anodd dychmygu gyrfa a oedd yn wirioneddol yn ei gyffroi.
Dywedodd, “Ces i drafferth mawr dod o hyd i rywbeth roeddwn i wir yn frwd drosto. Roeddwn i’n gwybod fy mod i’n hoffi darlunio a gwneud pethau artistig, ond allwn i ddim meddwl am unrhyw yrfa i mi fy hun.
“A phan gefais fy nhatŵ cyntaf, sylweddolais y gallwn i wneud hyn fel fy swydd. Ers hynny, rydw i wedi bod eisiau tatŵio."
Fodd bynnag, roedd gan Milo un amheuaeth sef ei orbryder. Ar y pryd, roedd y syniad o gerdded i mewn i stiwdio tatŵ a gofyn am hyfforddiant yn teimlo’n llethol.
Cysylltu i ofyn am gefnogaeth
Clywodd Milo am Cymru’n Gweithio gan ei fam. Trefnodd apwyntiad fideo gyda’r cynghorydd gyrfa, Kris.
Dywedodd Milo, "Roeddwn i’n bryderus iawn ar y dechrau oherwydd dydw i ddim yn dda iawn gyda galwadau fideo na siarad. Ond fe ddilynodd Kris fy nghyflymder i. Roedd e’n gwybod beth i’w ddweud a sut i siarad â fi."
Gwnaeth y sgwrs gyntaf honno wahaniaeth enfawr.
Aeth Milo ymlaen i ddweud, "Roedd Kris yn wych. Y tro cyntaf i ni siarad, meddyliais i ‘mae’r dyn yma’n ffeind’. Helpodd fi’n fawr ac rydw i’n gwella llawer gyda’r math yna o bethau."
Cyflwyno
Awgrymodd Kris gysylltu â Chelsea, cynghorydd ymgysylltu â rhanddeiliaid Cymru’n Gweithio, i weld a fyddai unrhyw stiwdios tatŵ yn ei wahodd i arsylwi a dysgu. Cysylltodd Chelsea â sawl stiwdio a threfnodd gyfle cysgodi gwaith gyda stiwdio leol yng Nghwmbrân.
Roedd gwybod bod rhywun wedi gwneud y cyflwyniad cyntaf hwnnw ar ran Milo yn helpu i leddfu’r pwysau.
Dywedodd, “Rwy’n meddwl mai gwybod y bydden nhw’n siarad â rhywun ar fy rhan oedd yn wych. Pan es i i gwrdd â nhw, roedden nhw eisoes yn gwybod beth roeddwn i ei eisiau. Gwnaeth hynny’r profiad cyfan yn llawer mwy cyfforddus."
Ennill profiad
Mynychodd Milo y stiwdio i arsylwi ac i ddysgu. Gwyliodd artistiaid wrth eu gwaith, dysgodd am atal heintiau a gwelodd sut mae offer yn cael ei lanhau a’i baratoi.
Dywedodd Milo, "Roedd yn llawer mwy addysgiadol na darllen amdano yn unig. Roeddwn yn gallu gweld beth yn benodol i edrych amdano."
Rhoddodd y profiad hwb i’w hyder. Mae bellach yn adeiladu ei bortffolio ac yn datblygu ei sgiliau.
Y camau nesaf
Ar hyn o bryd mae Milo yn chwilio am waith rhan-amser wrth barhau i chwilio am stiwdio tatŵ a all gynnig profiad gwaith iddo.
Mae’n gwybod y gallai gymryd amser, ond mae’n teimlo’n fwy hyderus ynglŷn â symud ymlaen. Mae cyfarwyddyd Kris wedi cael effaith barhaol.
Esboniodd Milo, "Mae Kris wedi fy helpu i sylweddoli nad yw fy meddyliau gorbryderus o reidrwydd yn wir. Mae e wedi fy helpu i weld pobl yn fwy positif ac rwy’n fwy agored i allu mân siarad ac felly gwneud ffrindiau. Mae e wedi gwneud llawer i fi, hyd yn oed os nad yw hynny yn amlwg."
Os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn ac hoffech chi drafod cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â thîm Cymru’n Gweithio drwy ffonio 0800 028 4844, am ddim, e-bostio cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru neu drwy ein sgwrs fyw.
Archwilio
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni
Chwiliwch am raglenni cymorth a all eich helpu i gael y sgiliau sydd eu hangen arnoch, gan gynnwys Twf Swyddi Cymru+, Prentisiaethau, a mwy.