Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Jimmy

Jimmy

Helpodd cefnogaeth gan Cymru'n Gweithio i Jimmy fagu hyder o’r newydd ar ôl colli swydd a sicrhau rôl newydd.

Ar ôl colli ei swydd, teimlai Jimmy fod angen iddo fynd yn ôl i’r gwaith yn gyflym. Dechreuodd wneud ceisiadau am swyddi, ond nid oedd yn cael unrhyw ymateb.

“Gadewais y busnes gyda thaliad bach,” meddai Jimmy. “Roedd yn eithaf pwysig mynd yn ôl i’r farchnad swyddi cyn gynted â phosibl.

Troi ceisiadau yn gyfweliadau

Clywodd Jimmy am Cymru'n Gweithio gyntaf ar ôl ymweld â'r Ganolfan Waith ym Mhorthcawl. Cafodd ei gyfeirio at gynghorydd gyrfa Cymru'n Gweithio, Kelly.

Gyda'i gilydd, fe wnaethon nhw adolygu ei CV a thrafod llythyrau eglurhaol. Edrychon nhw ar sut mae prosesau recriwtio wedi newid ers iddo wneud cais am swyddi ddiwethaf.

“Sylweddolais mai deallusrwydd artiffisial oedd yn darllen eich CV, felly roedd yn syniad da defnyddio deallusrwydd artiffisial i’ch helpu chi. Roedd hynny’n ddefnyddiol iawn,” meddai Jimmy.

“Roedd yn amhrisiadwy oherwydd roeddwn i wedi anfon llawer o CVs allan a doedd dim byd yn digwydd. Pan wnes i ei newid gyda chyngor Kelly, yn sydyn dechreuais gael adborth. Dechreuais gael gwahoddiadau i gyfweliadau hefyd, a oedd yn wych.”

Helpodd Kelly Jimmy i ddeall technegau cyf-weld modern, a oedd yn wahanol iawn i'r hyn yr oedd wedi'i brofi.

“Roeddwn i wedi mynd i dri neu bedwar cyfweliad ac roeddwn i wedi fy synnu beth yr oeddent yn ei ofyn. Fe wnaethon nhw siarad am ymddygiadau a sut rydych chi'n delio â sefyllfaoedd,” meddai.

Edrych y tu hwnt i beirianneg

Anogodd Kelly Jimmy i feddwl yn ehangach am y mathau o rolau y gallai eu dilyn.

Yn hytrach na chanolbwyntio’n llwyr ar swyddi peirianneg, fe wnaethon nhw edrych ar sut y gallai ei sgiliau a’i brofiad ehangach drosglwyddo i yrfaoedd gwahanol.

“Helpodd Kelly fi i weld beth roeddwn i’n ceisio ei wneud. Rydw i'n gweithio gyda phobl nawr yn hytrach na phethau, sy'n rhywbeth rydw i wir yn edrych ymlaen ato.”

Magu hyder drwy ymarfer

Gan ddilyn cyngor Kelly, dechreuodd Jimmy drin pob cyfweliad fel cyfle i ddysgu.

“Unwaith i mi ddeall sut roedd cyfweliadau’n gweithio, yr hyfforddiant gorau oedd cael cyfweliad,” meddai.

“Ces i sawl cyfweliad am swydd. Fe wnaethon nhw i gyd fy helpu i ymarfer technegau a magu fy hyder.”

Cyfle newydd o’m blaen

Aeth Jimmy ymlaen i sicrhau rôl gyda'r darparwr hyfforddiant ACT. Mae'n edrych ymlaen at ddechrau ei swydd newydd.

Wrth fyfyrio ar y gefnogaeth, dywedodd, “Cyn hyn, doeddwn i ddim yn gwybod ble i edrych. Roeddwn i’n chwilio am swyddi a ddim yn clywed dim, roedd popeth yn ymddangos yn dywyll iawn.

“Ar ôl y sesiwn gyda Kelly, roedd golau ar ddiwedd y twnnel, dw i'n meddwl, ac fe wnaeth i mi gredu eto.

“Mae wedi gwella fy hyder yn fawr, yn enwedig pan allwn i weld y cyngor yn gweithio mor gyflym gyda fy CV. Gwnaeth wahaniaeth enfawr.”

I unrhyw un mewn sefyllfa debyg, mae gan Jimmy neges glir.

Cysylltwch â Gyrfa Cymru yn sicr. Dyna oedd y peth gorau wnes i.”

Os ydych chi wedi colli’ch swydd ac yn teimlo bod angen cymorth diswyddo arnoch chi, neu fynediad at hyfforddiant ac uwchsgilio, ewch i Cymorth ar ôl colli swydd neu cysylltwch â ni.

Archwilio

Cymorth ar ôl colli swydd

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.

Sut y gallwn ni helpu

Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni