Archebwch le ar unrhyw un o’n sesiynau digidol ar gyflogadwyedd i gael cymorth a chefnogaeth ar amrywiaeth o bynciau yn cynnwys ysgrifennu CV, technegau cyfweld, cymorth ar ôl colli swydd a mwy.
Beth mae’r sesiynau’n ei gynnwys?
Bydd y sesiynau’n cael eu harwain gan anogwr cyflogadwyedd. Gallwch archebu lle ar faint bynnag o sesiynau ag y dymunwch.
Hyd: Bydd pob sesiwn yn para 1 awr
Cost: Mae pob sesiwn am ddim
Niferoedd yn y sesiwn: Bydd pob sesiwn yn gyfyngedig i uchafswm o 20 o bobl
Platfform: Cynhelir y sesiynau ar Microsoft Teams
Archebu: Gallwch archebu lle ar-lein drwy Microsoft Bookings
Bydd unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi i Gyrfa Cymru wrth archebu lle ar y sesiynau yn cael ei storio yn unol â GDPR. Darllenwch ein polisi preifatrwydd i gael mwy o wybodaeth.
Byddwch yn gallu gofyn cwestiwn drwy’r cyfleuster sgwrsio ar Microsoft Teams. Bydd y sgyrsiau’n ddienw fel na all pobl eraill yn y sgwrs gael gafael ar eich manylion cyswllt. Dim ond yr enw ar eich sgrin fydd yn cael ei ddangos, sef yr hyn y byddwch yn ei ddefnyddio wrth greu eich cyfrif Microsoft Teams.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth cyn archebu lle ar un o’r sesiynau, cysylltwch â ni.
Cynnwys y sesiynau cyflogadwyedd
Gallwch archebu lle ar bob sesiwn ar-lein drwy Microsoft Bookings. Fel arall, cysylltwch â ni a gallwn archebu lle ar eich rhan yn y sesiwn neu’r sesiynau o’ch dewis. Mae yna 6 sesiwn cyflogadwyedd wahanol.
1. CV a llythyr eglurhaol
Yn y sesiwn hon byddwch yn dysgu:
- Beth i’w roi mewn CV a chynnwys llythyr eglurhaol a sut i’w strwythuro
- Sut i deilwra CV i swydd-ddisgrifiad
- Sut i nodi’r sgiliau a’r rhinweddau personol a fydd yn gwella adran proffil personol eich CV
2. Cyfweliadau
Yn y sesiwn hon byddwch yn dysgu:
- Sut i ddatblygu eich sgiliau paratoi ar gyfer cyfweliad
- Amrywiol arddulliau cyfweld ac asesiadau
- Pwysigrwydd iaith y corff mewn cyfweliad
3. Ffurflenni cais
Yn y sesiwn hon byddwch yn dysgu:
- Sut i ddeall hysbysebion swyddi a phrosesau dethol
- Beth yw datganiad personol a sut i ysgrifennu datganiad personol
4. Hyrwyddo eich hun
Yn y sesiwn hon byddwch yn dysgu:
- Sut i ateb cwestiynau cymhwysedd gan ddefnyddio’r dull Cyd-destun, Camau Gweithredu, Canlyniad
- Pam mae cwestiynau cymhwysedd yn cael eu defnyddio
5. Ymchwil i swyddi
Yn y sesiwn hon byddwch yn dysgu:
- Gwerth a phwysigrwydd ymchwilio i swydd benodol er mwyn gwneud i chi sefyll allan ymysg eich cystadleuwyr
6. Cymorth pan fyddwch ar seibiant/yn wynebu colli eich swydd/diweithdra
Yn y sesiwn hon byddwch yn cael:
- Trosolwg o’r cymorth a’r cyllid sydd ar gael os byddwch wedi cael eich effeithio gan gyfnod seibiant, diweithdra, neu wedi colli eich swydd ers 1 Ionawr 2020
Noder: Mae’r sesiwn grŵp hon ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Fodd bynnag, byddem yn falch o gynnig yr un cymorth i chi drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â ni os hoffech gael y cymorth cyflogadwyedd hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Sicrhewch fod eich CV o'r safon orau bosibl. Dewch i wybod beth yw gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CVs, a lawrlwytho ein Canllaw i ysgrifennu CV.

Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.

Cewch wybod beth i'w ysgrifennu mewn llythyr cais neu e-bost.

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.

Cymorth ariannol ar gyfer ailhyfforddi, ar gyfer y rheini sydd wedi colli eu swydd neu sydd wedi dod yn ddi-waith ers 1 Ionawr 2020.