﻿WEBVTT

00:00:00.000 --> 00:00:02.720
Ethan, Dysgwr Adeiladu

00:00:02.720 --> 00:00:06.840
Dyma Ethan, dysgwr sy’n rhan o Twf Swyddi Cymru+.

00:00:06.840 --> 00:00:10.840
Roedd Ethan bob amser yn gwybod ei
fod eisiau gweithio ym maes adeiladu,

00:00:10.840 --> 00:00:15.920
ond y rhaglen hon wnaeth ei helpu i
benderfynu mai gwaith coed oedd y llwybr gorau iddo

00:00:15.920 --> 00:00:21.680
Rhwng y profiad ymarferol o ddydd i ddydd, a lleoliad gwaith yn y diwydiant gyda Wales and West Utilities,

00:00:21.680 --> 00:00:28.320
dywedodd ei fod wedi dod i gysylltiad â chyfleoedd
anhygoel sydd wedi bod o fudd i’w ddysgu a’i ddatblygiad.

00:00:28.320 --> 00:00:33.000
Angel, Dysgwr Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

00:00:33.000 --> 00:00:39.080
Dyma Angel. Mae Angel yn cymryd
camau enfawr gyda Twf Swyddi Cymru+.

00:00:39.080 --> 00:00:44.200
Pan wnaethon nhw orffen yr ysgol, doedden nhw
ddim yn siŵr beth oedden nhw eisiau ei wneud nesaf.

00:00:44.200 --> 00:00:47.560
Ar ôl treialu ychydig o wahanol gyrsiau yn y coleg,

00:00:47.560 --> 00:00:51.840
fe wnaethon nhw benderfynu dewis y
rhaglen hon i arbenigo mewn iechyd,

00:00:51.840 --> 00:00:54.720
gofal cymdeithasol a gofal plant.

00:00:54.720 --> 00:01:01.000
Maen nhw wedi bod wrth eu bodd yn dysgu
sgiliau newydd, fel yr ochr emosiynol a meddyliol i ofal

00:01:01.000 --> 00:01:05.280
ac maen nhw’n dweud ei fod yn gam tuag at wella eu bywyd.

00:01:05.280 --> 00:01:08.480
Kavan, Dysgwr Gwasanaethau Busnes

00:01:08.480 --> 00:01:15.480
Dyma Kavan. Mae’n gobeithio y gall droi ei frwdfrydedd
gydol oes yn yrfa gyda chymorth Twf Swyddi Cymru+.

00:01:15.480 --> 00:01:19.560
Mae Kavan wastad wedi bod eisiau
gweithio fel curadur mewn amgueddfa,

00:01:19.560 --> 00:01:23.480
ond roedd yn gwybod ei fod angen datblygu sgiliau penodol yn gyntaf.

00:01:23.480 --> 00:01:30.480
Dewisodd astudio Gwasanaethau Busnes ac mae wedi bod yn ennill profiad uniongyrchol yn y diwydiant drwy’r rhaglen.

00:01:30.480 --> 00:01:35.920
Dywedodd Kavan nad yw erioed wedi teimlo’n
debycach i’w hun nag y mae wedi’i wneud ers bod ar y rhaglen.

00:01:35.920 --> 00:01:41.640
Mae wrth ei fodd yn cael ei drin fel oedolyn ac mae’n dweud bod ennill arian wedi rhoi mwy o annibyniaeth iddo.

00:01:41.640 --> 00:01:45.302
Neidia ‘mlaen i’r rhannau da gyda Twf Swyddi Cymru+

00:01:45.302 --> 00:01:52.041
Am fwy o wybodaeth, cysyllta â Cymru’n Gweithio.