WEBVTT

00:00:00.000 --> 00:00:05.780
Mae menyw ifanc gwallt melyn yn lapio tywel 
o amgylch ei chleient ar ôl golchi ei gwallt, 

00:00:05.780 --> 00:00:09.980
Yna, rydyn ni’n ei gweld
 hi’n rhoi lliw yng ngwallt cleient arall, 

00:00:09.980 --> 00:00:17.220
Dyma Darla, Daeth hi o hyd i’w swydd ddelfrydol drwy raglen Twf Swyddi Cymru+ Llywodraeth Cymru, 

00:00:17.220 --> 00:00:21.340
Mae hi newydd gwblhau ei chymhwyster NVQ mewn Trin Gwallt 

00:00:21.340 --> 00:00:25.500
 ac ar hyn o bryd mae’n gweithio 
yn Henderson & Co fel Steilydd Iau, 

00:00:25.500 --> 00:00:30.980
Rydyn ni’n gweld y tu allan i salon Henderson & Co 
ar stryd brysur yng Nghaerdydd.

00:00:30.980 --> 00:00:35.480
Y tu mewn, rydyn ni’n cael gweld 
yr amrywiaeth o gynhyrchion y mae Darla

00:00:35.480 --> 00:00:41.140
yn eu defnyddio yn y salon 
gan gynnwys raseli, lliwiau a siampŵ.

00:00:41.600 --> 00:00:44.600
Roedd Darla yn ei chael yn anodd credu ynddi ei hun

00:00:44.780 --> 00:00:49.020
ac er ei bod yn gwybod ei bod hi eisiau gweithio 
mewn diwydiant creadigol

00:00:49.100 --> 00:00:52.580
 doedd hi ddim yn gwybod pa yrfa fyddai’n mynd â’i bryd, 

00:00:52.580 --> 00:00:57.700
Mae Darla yn golchi ac yn tylino
gwallt ei chleient gyda siampŵ ewynog.

00:00:58.780 --> 00:01:03.460
Diolch i gefnogaeth Twf Swyddi Cymru+, 
aeth Darla i ddiwrnodau blasu

00:01:03.460 --> 00:01:05.400
 i weld beth oedd ar gael iddi.

00:01:05.400 --> 00:01:10.820
 Y profiadau yma wnaeth ei helpu i ddarganfod 
ei bod yn frwd dros drin gwallt, 

00:01:11.000 --> 00:01:15.600
Mae Darla yn cribo, yn lliwio
ac yn eillio gwallt ei chleient

00:01:15.600 --> 00:01:21.420
gyda chefnogaeth ei chyflogwr Kellie 
wrth ei hochr, sydd â gwallt brown a ffrinj.

00:01:21.420 --> 00:01:25.420
Cafodd gefnogaeth amhrisiadwy gan 
ei thiwtor ar ei thaith at waith.

00:01:25.420 --> 00:01:29.660
 Gyda'i gilydd, buon nhw’n gweithio ar sgiliau hanfodol Darla.

00:01:29.660 --> 00:01:33.960
 fel datblygu ei CV ac ymarfer ar gyfer cyfweliadau go iawn.

00:01:33.960 --> 00:01:37.440
 a fu’n help iddi wella ei hyder cyn mentro i fyd gwaith, 

00:01:37.440 --> 00:01:40.440
Ers dechrau ei swydd yn Henderson & Co.

00:01:40.440 --> 00:01:46.420
mae Darla wedi datblygu llawer o sgiliau, gan gynnwys torri, lliwio a steilio gwallt.

00:01:46.420 --> 00:01:51.460
Mae hi hefyd wedi dechrau datblygu ei rhestr gleientiaid ei hun, 

00:01:51.720 --> 00:01:58.140
Mae Darla yn cymysgu’r lliw mewn pot porffor 
yn barod i’w roi ar wallt ei chleient yn y basn.

00:01:58.140 --> 00:02:02.320
Mae hi’n chwerthin wrth 
sgwrsio â’i chleient a’i chyflogwr.

00:02:02.320 --> 00:02:07.220
Mae Darla yn ddiolchgar i Twf Swyddi Cymru+ 
am ei helpu i weld ei photensial.

00:02:07.300 --> 00:02:10.560
ac mae hi bellach yn edrych ymlaen at y dyfodol.

00:02:10.560 --> 00:02:15.680
gan gynnwys taith i weithdy sioe ffasiwn 
Kevin Murphy i ddatblygu ei sgiliau, 

00:02:15.760 --> 00:02:24.040
Fel Darla, efallai dy fod yn ansicr beth sydd nesaf i ti a dy fod eisiau cymorth i ddod o hyd i yrfa rwyt ti’n ei mwynhau,  

00:02:24.040 --> 00:02:28.520
Mae Darla yn ychwanegu estyniadau 
gwallt at wallt newydd ei chleient.

00:02:29.180 --> 00:02:32.100
Os wyt ti rhwng 16 a 19 oed.

00:02:32.100 --> 00:02:36.140
mae Twf Swyddi Cymru+ yn cynnig hyfforddiant 
a chymorth pwrpasol 

00:02:36.140 --> 00:02:40.340
i dy helpu i fagu hyder ac ennill cymwysterau newydd.

00:02:40.340 --> 00:02:44.600
ac i dy roi ar lwybr tuag at yrfa rwyt ti’n teimlo’n frwd drosti, 

00:02:45.880 --> 00:02:50.000
Neidia ‘mlaen i’r rhannau da gyda Twf Swyddi Cymru+.

00:02:50.000 --> 00:02:53.400
Cysyllta â Cymru’n Gweithio am fwy o wybodaeth.
